Y Wal Goch yn camu i’n cymunedau 

Uno pobl, busnesau a phêl-droed ar draws cymunedau ARFOR

Mae cynllun newydd wedi cael ei lansio gan Gymdeithas Bel-droed Cymru i fynd ag ysbryd dwyieithog y Wal Goch i ganol rhai o gymunedau Cymru. 

Dros y chwe mis nesaf, bydd 12 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn siroedd Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, a’r rheini’n dathlu bwrlwm y Wal Goch ar lawr gwlad. 

Bydd y digwyddiadau teuluol yn amrywio o gerddoriaeth fyw i weithdai pêl-droed, gyda rhai o sêr y gamp yn ymddangos mewn ambell leoliad. Y nod yw defnyddio llwyddiant timau pêl-droed cenedlaethol y dynion a’r merched i uno pobl, busnesau a’r celfyddydau mewn cymunedau yn y pedair sir. 

Prosiect yw hwn sy’n cael ei gynnal gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) gyda chyllid gan Gronfa Her ARFOR. 

I drefnu’r digwyddiadau, bydd CBDC yn cydweithio â chlybiau pêl-droed lleol. Yn eu plith, bydd Clwb Pêl-droed Llangefni, Clwb Pêl-droed Dolgellau, Clwb Pêl-droed Bow Street a Chlwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin. 

Bydd nifer o’r digwyddiadau’n cael eu cynnal dros benwythnosau gwyliau fel Gŵyl Cefni, Gŵyl Fach Aberporth, Sesiwn Fawr Dolgellau a Gŵyl Canol Dre Caerfyrddin. Bydd y gweddill yn cyd-daro â gemau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd, wrth i Gymru herio Twrci, Montenegro a Gwlad yr Iâ dros fisoedd yr hydref. 

Bydd pwyslais ar gydweithio â busnesau lleol, a fydd yn cael eu gwahodd i’r digwyddiadau i werthu ac arddangos cynnyrch. Bydd CBDC hefyd yn creu cynnwys Cymraeg digidol i’w rannu ar wasanaeth ffrydio RedWall+. 

Cynhelir digwyddiad cyntaf y cynllun yng Nghlwb Pêl-droed Llangefni ar 6 Mehefin. Dyma noson gêm gyfeillgar tîm dynion Cymru yn erbyn Gibraltar, a bydd cyfle i deuluoedd fwynhau gweithdai a bwyd cyn gwylio’r gêm ar y sgrin fawr. 

Dywedodd Ieuan Davies, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Llangefni: “Mae’n grêt gallu cydweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Gŵyl Cefni i gynnal digwyddiad teuluol yn y clwb. Mae cael cyfle i ddathlu Cymreictod, cynnal gweithdai pêl-droed a gweithio gyda busnes lleol i ddenu cynulleidfaoedd newydd yn wych a’r gobaith ydi y 

daw nhw nôl yma i wylio gemau dynion a merched y clwb ynghyd â gemau cenedlaethol Cymru.” 

Meddai Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus CBDC: “Rydyn ni fel cymdeithas yn edrych ymlaen at gydweithio â Chronfa ARFOR dros y misoedd nesaf, gan ddod â phêl-droed, busnesau lleol, y celfyddydau a’r Gymraeg i gyd at ei gilydd. Drwy hynny, byddwn ni’n creu naws gemau rhyngwladol mewn cymunedau lleol.” 

Mae ARFOR yn fenter ar y cyd rhwng awdurdodau lleol Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, yn dilyn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae’n ceisio defnyddio cyllid o £2 filiwn i dreialu atebion newydd ac arloesol i heriau yn yr ardaloedd hyn. 

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd ARFOR: “Mae Bwrdd ARFOR yn edrych ymlaen at gydweithio gyda CBDC ar y cynllun yma. Mae o am alluogi Rhaglen ARFOR i greu bwrlwm o fewn ein cymunedau ag i greu rhwydwaith newydd rhwng busnesau a chymunedau i fod yn rhan o weithgareddau pêl droed rhyngwladol, y celfyddydau a’r Gymraeg. Mae’r cynllun yn un cyffrous i greu a datblygu gofodau Cymraeg naturiol o fewn y rhanbarth. Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r digwyddiadau yma dros y misoedd nesaf” 

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.