Carfan Cymru wedi’i cyhoeddi ar gyfer gêm dwbl yn erbyn Wcráin

Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi ei charfan o 26 chwaraewr wrth i Gymru edrych i adeiladu ar ddechrau cryf yn eu hymgyrch ragbrofol UEFA EURO 2025 gyda dwy gêm yn erbyn Wcráin.

Mae Carrie Jones a Safia Middleton-Patel yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli’r gemau ym mis Ebrill oherwydd anafiadau, ac mae pedwar chwaraewr di-gap wedi cael eu dewis; Poppy Soper, Ellen Jones, Olivia Francis a Tianna Teisar. Mae gan Wilkinson garfan gryf i ddewis o gan gynnwys Jess Fishlock, Sophie Ingle ac Angharad James, ond ni fydd Elise Hughes ar gael ar ôl cael anaf ACL yn y gêm cyn-olaf y tymor i’w chlwb Crystal Palace.

Ar ôl dechrau cryf i’r ymgyrch gyda buddugoliaeth 4-0 yn erbyn Croatia a buddugoliaeth 6-0 yn Podujevo yn erbyn Kosovo, bydd Wilkinson yn gobeithio adeiladu ar y canlyniadau hynny pan fyddant yn wynebu Wcráin ym Mharc y Scarlets, Llanelli (Dydd Gwener 31 Mai) ac eto ar Ddydd Mawrth 4 Mehefin yn Stadion Respect Energy ger Poznan yn Gwlad Pwyl.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn Llanelli (Cic gyntaf 7:15pm) ar gael i’w prynu ar wefan docynnau CBDC, yn costio £10 i oedolion a £5 i blant, gyda prisau gostwng ar gael i aelodau’r Wal Goch.

Prynwch eich tocynnau nawr

Cymru v Wcráin

Dydd Gwener 31 o Fai

Cymru: Olivia CLARK (Bristol City), Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Safia MIDDLETON-PATEL (Watford- On loan from Manchester United), Poppy SOPER (Ipswich Town- On loan from Charlton Athletic), Rhiannon ROBERTS (Real Betis), Charlie ESTCOURT (Reading), Josie GREEN (Leicester City), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Manchester United), Mayzee DAVIES (Manchester United), Lily WOODHAM (Seattle Reign), Ella POWELL (Bristol City), Sophie INGLE (Chelsea), Alice GRIFFITHS (Southampton), Angharad JAMES (Seattle Reign), Lois JOEL (London City Lionesses), Rachel ROWE (Rangers), Carrie JONES (Bristol City), Ffion MORGAN (Bristol City), Jess FISHLOCK (Seattle Reign), Ceri HOLLAND (Liverpool), Ellen JONES (Sunderland), Kayleigh BARTON (Charlton Athletic), Mary MCATEER (Sunderland), Olivia FRANCIS (Manchester United), Tianna TEISAR (Cardiff City Ladies- On loan from Bristol City).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.