Time is running out to take advantage of double ticket offer for Cymru WEURO matches

Carfan Cymru Wedi’i Chyhoeddi ar Gyfer Armenia a Thwrci

Wales’ Head Coach Robert Page  prior to the Group D UEFA European Championship Qualifying fixture vs Croatia on the 25th of March, Stadion Poljud, Split, Croatia

Mae Rob Page wedi cyhoeddi carfan o 25 chwaraewyr ar gyfer gemau rhagbrofol UEFA EURO 2024 Cymru yn erbyn Armenia yng Nghaerdydd (Dydd Gwener 16 o Fehefin), a Thwrci yn Samsun (Dydd Llun 19 o Fehefin).

Bydd David Brooks yn ymuno a’r garfan am y tro gyntaf ers Hydref 2021, ar ôl gwella o Hodgkin Lymphoma, ac mae Brennan Johnson a Ben Davies nol yn y garfan ar ôl colli allan ym mis Mawrth oherwydd anafiadau a fydd yr amddiffynwr Joe Low yn ymuno efo’r carfan am y tro gyntaf. Luke Harris, Liam Cullen a Morgan Fox yw’r tri chwaraewr ddi-gap yn y garfan.

Cafodd Cymru dechreuad cryf i’r grŵp ym mis Mawrth wrth i Nathan Broadhead sgorio yn ei gêm gyntaf a sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Croatia yn Split, a gôl Kieffer Moore sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Latfia yng Nghaerdydd. Mae Cymru yn eistedd yn yr ail safle yng nghrŵp D, efo Twrci ac Armenia yn y trydydd a pedwerydd safle.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Armenia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gael ar wefan tocynnau CBDC, efo prisiau yn dechrau am £5 i blant dan 16.

Cymru squad: Wayne HENNESSEY (Nottingham Forest), Danny WARD (Leicester City), Adam DAVIES (Sheffield United), Joe RODON (Rennes- On loan from Tottenham Hotspur), Ben CABANGO (Swansea City), Chris MEPHAM (AFC BOURNEMOUTH), Joe LOW (Bristol City), Connor ROBERTS (Burnley), Morgan FOX (Unattached), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Ethan AMPADU (Spezia- On loan from Chelsea), Joe MORRELL (Portsmouth), Jordan JAMES (Birmingham City), Dan JAMES (Fulham- On loan from Leeds United), Nathan BROADHEAD (Ipswich Town), Aaron RAMSEY (OGC Nice), Harry WILSON (Fulham), Ollie COOPER (Swansea City), Luke HARRIS (Fulham), Brennan JOHNSON (Nottingham Forest), David BROOKS (AFC Bournemouth), Liam CULLEN (Swansea City), Kieffer MOORE (AFC Bournemouth), Tom BRADSHAW (Milwall).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.