Mae Rob Page wedi cyhoeddi carfan o 25 chwaraewyr ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn De Corea (Dydd Iau 7 o Fedi) a gêm Rownd Ragbrofol UEFA EURO 2024 yn erbyn Latfia (Dydd Llun 11 o Fedi).
Bydd Tom Lockyer yn dychwelyd i’r garfan ar ôl cael triniaeth ar ei galon, a bydd Josh Sheehan yn ymuno am y tro gyntaf ers 2021. Tom King, Morgan Fox a Liam Cullen yw’r tri chwaraewr ddi-gap yn y garfan.
Mae Cymru hanner ffordd trwy’r ymgyrch i gyrraedd pencampwriaeth UEFA EURO 2024, yn eistedd yn y pedwerydd safle yn y grŵp efo pedwar pwynt. Fe wnaeth gôl Kieffer Moore sicrhau buddugoliaeth yn y gêm gyntaf yn erbyn Latfia yng Nghaerdydd, ond nid yw Cymru byth wedi chwarae yn erbyn De Corea mewn gêm dynion rhyngwladol.
Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn De Corea yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gael ar wefan tocynnau CBDC, efo prisiau yn dechrau am £5 i blant dan 16.
Carfan Cymru: Wayne HENNESSEY (Nottingham Forest), Danny WARD (Leicester City), Adam DAVIES (Sheffield United), Tom KING (Wolverhampton Wanderers), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Morgan FOX (Queens Park Rangers), Joe RODON (Leeds United, on loan from Tottenham Hotspur), Ben CABANGO (Swansea City), Chris MEPHAM (AFC Bournemouth), Tom LOCKYER (Luton Town), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Connor ROBERTS (Burnley), Wes BURNS (Ipswich Town), Ethan AMPADU (Leeds United), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Jordan JAMES (Birmingham City), Joe MORRELL (Portsmouth), Harry WILSON (Fulham), Aaron RAMSEY (Cardiff City), Kieffer MOORE (AFC Bournemouth), Nathan BROADHEAD (Ipswich Town), Brennan JOHNSON (Nottingham Forest), David BROOKS (AFC Bournemouth), Tom BRADSHAW (Millwall), Liam CULLEN (Swansea City).