Time is running out to take advantage of double ticket offer for Cymru WEURO matches

Carfan Cymru wedi’i cyhoeddi am gemau i ffwrdd o adre Cynghrair y Cenhedloedd

Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr i wynebu’r Almaen (Dydd Gwener 27 o Hydref) a Denmarc (Dydd Mawrth 31 o Hydref) yn gemau i ffwrdd o adre yng Nghynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA.

Bydd Hannah Cain yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli allan mis diwethaf oherwydd anaf, ac mae’r chwaraewr canol cae Josie Longhurst wedi cael galwad mewn i’r garfan. Mae Longhurst wedi bod yn rhan o garfannau yn y gorffennol, ac wedi cynrychioli Cymru ar lefel D17 a D19 dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r gemau yn rhan o bencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA, y tro gyntaf i’r gystadleuaeth cymryd lle. Bydd Cymru yn wynebu Gwlad yr Iâ, Denmarc ac yr Almaen yng Nghrŵp A, efo’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle cynnar i Gymru sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle i gyrraedd pencampwriaeth UEFA EURO Menywod yn 2025. Mae mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA ar gael yma.

Ym mis Rhagfyr bydd gan Gymru ddwy gêm adref, yn erbyn Gwlad yr Iâ (Dydd Gwener 1 Rhagfyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd) ac yn erbyn yr Almaen (Dydd Mawrth 5 Rhagfyr yn Stadiwm Swansea.com). Gall cefnogwyr archebu tocynnau ar wefan tocynnau CBDC, efo prisiau am £10 i oedolion a £5 i blant a phris gostwng i aelodau o’r Wal Goch.

Cymru: Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Olivia CLARK (Bristol City), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Hayley LADD (Manchester United), Josie GREEN (Leicester City), Gemma EVANS (Manchester United), Rhiannon ROBERTS (Real Betis), Charlie ESTCOURT (Reading), Lily WOODHAM (Reading), Esther MORGAN (Hearts), Anna FILBEY (Crystal Palace), Ella POWELL (Bristol City), Sophie INGLE (Chelsea), Angharad JAMES (Tottenham Hotspur), Jess FISHLOCK (OL Reign), Rachel ROWE (Rangers), Ffion MORGAN (Bristol City), Megan WYNNE (Southampton), Ceri HOLLAND (Liverpool), Ellen JONES (Sunderland), Josie LONGHURST (Reading), Kayleigh GREEN (Charlton Athletic), Hannah CAIN (Leicester City), Carrie JONES (Bristol City), Elise HUGHES (Crystal Palace), Mary MCATEER (Sunderland).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.