Double ticket offer for Cymru WEURO matches

Carfan D21 Cymru wedi’i cyhoeddi ar gyfer Lithwania a Moroco

Mae hyfforddwr tîm D21 Cymru, Matty Jones, wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gêm Rownd Ragborofol UEFA EWRO D21 yn erbyn Lithwania a gêm gyfeillgar yn erbyn Moroco.

Mae Jones wedi enwi tri chwaraewr newydd yn y garfan; Terence Miles a Lewis Koumas o Lerpwl, ac Alex Williams, amddiffynwr West Bromwich.

Mae Luca Hoole yn dychwelyd ar ôl colli allan yn y gemau diwethaf trwy anaf, ac Joel Colwill, Ben Lloyd, Oliver Ewing a Pat Jones yw’r newidiadau arall ers y gemau ym mis Tachwedd.

Bydd Cymru yn herio Lithwanian yn gyntaf yn Rodney Parade, Casnewydd (6pm Dydd Gwener 22 Mawrth), cyn wynebu tîm D23 Moroco yn Nhwrci ar ddydd Mawrth 26 Mawrth (6pm).

Mae Cymru yn eistedd yn ail yng Nghrŵp I yn yr ymgyrch i gyrraedd pencampwiraeth UEFA EURO D21 2025, ar ôl cipio wyth pwynt o’u pum gem gyntaf. Gall cefnogwyr brynu tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Lithwania yma.

Cymru U21: Ed BEACH (Gateshead – on loan from Chelsea), Evan WATTS (Swansea City), Matt BAKER (Newport County – on loan from Stoke City), Terence MILES (Liverpool), Luca HOOLE (Bristol Rovers), Jay WILLIAMS (Sutton United), Zac ASHWORTH (Bolton Wanderers – on loan from West Bromwich Albion), Owen BECK (Dundee FC – on loan from Liverpool), Tom DAVIES (Kilmarnock – on loan from Cardiff City), Fin STEVENS (Oxford United – on loan from Brentford), Alex WILLIAMS (West Bromwich Albion), Eli KING (Ross County – on loan from Cardiff City), Joel COTTERILL (Swansea City), Joel COLWILL (Cardiff City), Charlie CREW (Leeds United), Oli HAMMOND (Oldham Athletic), Ben LLOYD (Swansea City), Oliver EWING (Leicester City), Luke HARRIS (Exeter City – on loan from Fulham), Chris POPOV (Leicester City), Pat JONES (Huddersfield Town), Lewis KOUMAS (Liverpool), Cian ASHFORD (Cardiff City).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.