Mae Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae Ian Gwyn Hughes wedi cael ei anrhydeddu am oruchwylio sawl eiliad allweddol ym mhêl-droed cenedlaethol Cymru, ar ôl arwain cyfathrebiadau CBDC yn UEFA EURO 2016, UEFA EURO 2020 a Chwpan y Byd FIFA 2022. Mae hefyd wedi cael ei gydnabod am ei ymdrechion i wneud y Gymraeg yn rhan ganolog o waith CBDC ac am roi llwyfan rhyngwladol i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Mae hefyd wedi bod yn flaengar wrth hyrwyddo pêl-droed mewn cymunedau lleol ar draws y wlad.
Daw Ian Gwyn Hughes yn wreiddiol o Fae Colwyn a chafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Eirias, Bae Colwyn ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Aeth ymlaen i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth.
Ym 1982, dechreuodd ei yrfa ddarlledu yn gweithio i radio CBC (Cardiff Broadcasting Company). Erbyn diwedd y flwyddyn roedd wedi dechrau gweithio fel cyflwynydd a sylwebydd i Adran Chwaraeon BBC Cymru/Wales, a thros y tri degawd nesaf bu’n gweithio i’r BBC fel gohebydd pêl-droed, golygydd pêl-droed, ac fel sylwebydd ar Match of the Day. Ymunodd â CBDC yn 2011.
Dywedodd Steve Thomas, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Prifysgol Aberystwyth: “I gefnogwyr pêl-droed, mae’r enw Ian Gwyn Hughes yn gyfarwydd iawn. Am flynyddoedd lawer, ef oedd llais pêl-droed rhyngwladol yng Nghymru. Ers 2011, mae wedi arwain cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, lle gellir crynhoi ei waith gan y llinell a fabwysiadwyd ac sydd bellach yn gyfarwydd – Gyda’n Gilydd yn Gryfach.
“Does dim dwywaith fod gweledigaeth Ian, sef dod â phawb at ei gilydd fel un carfan gref o gefnogwyr, a chreu cwlwm gwirioneddol rhwng y cyhoedd a’r chwaraewyr, wedi talu ar ei ganfed. Mae ei waith wedi bod yn rhan o stori lwyddiant ryfeddol i’r tîm cenedlaethol – i bêl-droed ac i’r genedl. Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael cyflwyno Ian Gwyn Hughes yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.”
Dywedodd Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn cydnabod ei ddylanwad pellgyrhaeddol ac eang oddi ar y maes ac am ei arweiniad digyffelyb ar newid diwylliannol ac ymgysylltiad cymunedol. A hyn trwy ei rôl fel Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Fe allech chi ddweud iddo ddod â’r wal goch i ymwybyddiaeth y byd. Mae’n wal sy’n sefyll dros angerdd, balchder ac argyhoeddiad. Balchder cenedlaethol sy’n ymledu o’r stondinau a’r sgriniau i ysbrydoli pob un ohonom ni a’n tîm i gredu.”
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Ian Gwyn Hughes: “Rwyf wedi gweithio gyda phobl wych yn y byd darlledu yn y BBC ac fel pennaeth cyfathrebu yn y deng mlynedd diwethaf gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Ni feddyliais erioed y byddai gradd mewn Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn arwain at fod yn bennaeth cyfathrebu mewn dwy Bencampwriaeth Ewropeaidd a Chwpan y Byd. Mae’n fraint ac yn anrhydedd derbyn y cymrodoriaethau.”