Bydd paratoadau Cymru ar gyfer pencampwriaeth Cynghrair y Cenedloedd UEFA a rownd ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026 yn dechrau yn yr Algarve ar ddydd Iau 6 Mehefin, lle bydd tîm Rob Page yn wynebu Gibraltar yn Estádio Algarve (KO i’w gadarnhau).
Fe wnaeth y ddau dîm cyfarfod ddiwethaf ym mis Hydref lle wnaeth Cymru ennill y gêm 4-0 yn Wrecsam, efo pedwar chwaraewr yn ennill ei capiau gyntaf. Bydd Rob Page yn gweld y gêm fel y dechrau o paratoadau ar gyfer ymgyrch Cynghrair y Cenedloedd UEFA, sydd yn dechrau ym mis Medi, lle bydd Cymru yn wynebu Gwlad yr Iâ, Montenegro, a Thwrci.
Yn dilyn y gêm yn Estádio Algarve, bydd Cymru’n teithio i Trnava i wynebu Slofacia yn Stadiwm Anton Malatinkský ar ddydd Sul 9 Mehefin (KO 7:45pm BST).
Bydd gwybodaeth tocynnau ar gyfer y ddau gêm yn cael ei gadarnhau cyn gynted â phosib.