
Mae’r cyn-chwaraewyr Cymru Laura McAllister a John Mahoney wedi cael ei dderbyn i’r Orsedd trwy anrhydedd, yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd wythnos diwethaf.
Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Cafodd McAllister a Mahoney ei dderbyn i’r Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.
Fel cyn-gapten Cymru, cynrychiolodd McAllister ei wlad hi 24 o weithiau ac ers chwarae mae hi wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy wrth amlygu gêm y merched a’r menywod, hawliau LHDTC+, a chwaraeon paralympaidd. Eleni, fe’i hetholwyd i Bwyllgor Gweithredol UEFA fel Is-lywydd, y cynrychiolydd cyntaf o Gymru a’r bêldroedwraig gyntaf i gyflawni’r gamp.
Fe wnaeth Mahoney cynrychioli Cymru 51 o weithiau rhwng 1967-1983, ac yr oedd yn rhan o’r garfan wnaeth cyrraedd wyth olaf Pencampwriaeth Ewrop UEFA yn 1976. Ar ôl chwarae, fe wnaeth Mahoney rheoli CPD Dinas Bangor, Casnewydd a CPD Dref Caerfyrddin. Oddi ar y cae aeth ati i ddysgu Cymraeg, gan fynychu sesiynau lefel uwch ‘Siawns am Sgwrs’ yng ngorllewin Cymru.
Hoffai CBDC llongyfarch Laura McAllister a John Mahoney am gael ei dderbyn i’r Orsedd trwy anrhydedd.
Credit lluniau – Eisteddfod Genedlaethol Cymru