Time is running out to take advantage of double ticket offer for Cymru WEURO matches

Dyfarnwyr yng Nghymru yn gadael y gêm oherwydd camdriniaeth

Mae arolwg mewnol i ddeall profiadau swyddogion gêm ym myd pêl-droed Cymru wedi datgelu bod 1 o bob 4 Dyfarnwr wedi profi cam-drin corfforol.

Roedd yr arolwg a gynhaliwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), lle cafwyd ymatebion gan 282 o swyddogion gêm, yn nodi bod 88% o’r rheiny a ymatebodd hefyd wedi cael eu cam-drin ar lafar wrth ddyfarnu ar ryw adeg yn eu gyrfa, gyda mwy na 50 y cant o swyddogion yn teimlo bod ymddygiad y rheiny sy’n ymwneud â phêl-droed tuag at Ddyfarnwyr yn gwaethygu.

O ganlyniad, mae nifer o ddyfarnwyr yng Nghymru yn gwneud y penderfyniad anffodus i roi’r gorau i ddyfarnu oherwydd yr ymddygiad negyddol yn eu herbyn.

Yn dilyn bygythiadau o gam-drin yn ystod ac ar ôl gemau, dywedodd Sean Regan, sy’n Ddarlithydd Chwaraeon, yn Hyfforddwr pêl-droed yng Nghymru ac yn gyn-ddyfarnwr: “Fe wnaeth fy rhoi mewn sefyllfa a wnaeth i mi benderfynu na fyddwn yn parhau i ddyfarnu. Fe wnaeth i mi gwestiynu, ‘a yw hyn werth y cyfan mewn gwirionedd?’.

“Rwy’n teimlo bod angen newid diwylliant. Ni fydd gennym ni bêl-droed, pêl-droed llawr gwlad, nac unrhyw gamp arall, heb swyddogion. Mae angen ymddwyn ar ochr y cae y ffordd rydym ni’n meddwl y dylem ni ymddwyn wrth gerdded i lawr y stryd, neu yn ein swyddfa. Mae pob aelod o’r teulu pêl-droed yn fodelau rôl i’n chwaraewyr, ac mae angen i ni gadw hynny mewn cof drwy’r amser.”

Mae dyfarnwyr sy’n penderfynu gadael y gêm yn cael effaith niweidiol iawn ar hyd a lled pêl-droed yng Nghymru, gan nad oes digon o Ddyfarnwyr ar gael ar hyn o bryd i ddarparu swyddog gêm ym mhob gêm ar lawr gwlad yng Nghymru.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a Chymdeithasau Ardal felly yn cyflwyno mentrau gyda’r nod o leihau achosion o gam-drin ac o ganlyniad, cynyddu nifer y Dyfarnwyr sydd ar gael a gwella disgyblaeth ar hyd a lled Cymru.

Mae’r mentrau hyn yn cynnwys treialu Gwaharddiadau Dros Dro, y cyfeirir atynt yn aml fel ‘Celloedd Cosb’ neu ‘Sin Bins’, mewn ymgais i leihau achosion o ddadlau â swyddogion gêm a chyflwyno Bandiau Braich Melyn i Ddyfarnwyr Iau eu gwisgo er mwyn dangos i chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr bod y Dyfarnwr dan 18.

Yn ogystal, mae canllaw cynhwysfawr wedi’i ddarparu i bob swyddog gêm ar sut i roi gwybod am Gamymddwyn Ychwanegol pe bai hyn byth yn digwydd wrth ddyfarnu. Mae Camymddwyn Ychwanegol yn cynnwys achosion o Gamymddwyn gan Swyddog Clwb, Cefnogwr neu Chwaraewr, cyn neu ar ôl gêm, neu ar ôl cael ei anfon oddi ar y cae.

Meddai’r Dyfarnwr o Gymru a Swyddog Datblygu Dyfarnwyr Menywod cyntaf erioed CBDC, Ceri Williams: “Yn gyffredinol, mae cyfradd y rheiny sy’n aros yn y byd dyfarnu yn wirioneddol wael. Nid yw hyn yn rhywbeth sy’n benodol i Gymru, ond yn hytrach ar draws pob gwlad. Mae hyn oherwydd y gamdriniaeth mae dyfarnwyr yn destun iddi yn gyffredinol. Ond dwi’n meddwl bod y gyfradd rhoi’r gorau iddi yn sylweddol uwch ymhlith menywod am y rheswm hwnnw, a dyna pam mae cyflwyno mentrau sy’n cynnig cymorth ac yn helpu i gynnal nifer y dyfarnwyr mor bwysig.

“Yn aml, byddwn yn derbyn sylwadau fel ‘dos yn ôl i’r gegin’ neu ‘cer adref at dy ŵr.’ Yn seicolegol dwi’n meddwl bod sylwadau personol weithiau’n anoddach delio â nhw gan eu bod wedi’u targedu ataf gan fy mod yn fenyw. Rydym ni’n gweld llawer o ferched yn troi eu cefn ar y gêm am y rheswm hwnnw ac mae hyn yn amlygu pwysigrwydd cael rhwydwaith o gefnogaeth y bydd Academi Dyfarnwyr y Cynghreiriau Adran yn ei ddarparu, a chyfle i ddysgu gan y rhai sydd wedi profi hyn.”

Trwy gyllid FIFA, mae CBDC wedi cyflwyno Academi Dyfarnwyr y Cynghreiriau Adran, rhaglen wedi’i thargedu a fydd yn recriwtio ac yn datblygu dyfarnwyr i wasanaethu’r gêm fenywaidd a thwf cyflym y gêm honno yn effeithiol gyda swyddogion gemau, gyda dros 100 o fenywod a merched hyd yma wedi ymuno â’r gweithdai cyflwyno. 

Ar hyn o bryd, dim ond 50 o fenywod sydd wedi’u cofrestru fel Dyfarnwyr yng Nghymru ac mae’r niferoedd uchel o fenywod a merched sy’n ymuno â’r fenter hon yn amlygu pwysigrwydd cael rhaglenni pwrpasol i annog mwy o ddyfarnwyr benywaidd i gymryd rhan yn y gêm, yn ogystal â modelau rôl gweladwy, fel y Dyfarnwr a cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Cheryl Foster yn dyfarnu yng Nghwpan y Byd Merched FIFA 2023.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Recriwtio a Chadw Swyddogion Gêm CBDC, Jack Rea: “Mae canlyniadau pryderus yr arolwg yn dangos pa mor bwysig yw bod CBDC a’r teulu pêl-droed ehangach yn mynd i’r afael â’r broblem o ddyfarnwyr yn cael eu cam-drin. Mae parchu pawb ar draws y gêm gyfan yn allweddol i hyn a dim ond trwy gydweithio y gellir ei gyflawni.

“Er gwaetha’r gamdriniaeth y mae nifer o ddyfarnwyr wedi’i phrofi, gallwn fod yn ddiolchgar fod gennym, ledled Cymru, ddyfarnwyr gwych sy’n parhau mewn pêl-droed oherwydd eu cariad at y gêm a’u rôl allweddol ynddi. Yn CBDC ac ar draws y Cymdeithasau Ardal rydym ni wrthi yn recriwtio’r niferoedd uchaf erioed o swyddogion gemau, gyda diddordeb digynsail mewn dyfarnu ymhlith menywod a merched. Mae cadw’r dyfarnwyr hyn felly yn allweddol, ac i gyflawni hyn rhaid sicrhau ymddygiad teg a pharchus i gryfhau’r gêm yn ei chyfanrwydd.”

Mae CBDC wedi ymrwymo i sicrhau bod pêl-droed i bawb, lle gall pawb deimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cefnogi ar draws y gêm yng Nghymru. 

I gefnogi gweledigaeth CBDC ar gyfer pêl-droed Cymru a’i diwylliant ymhellach, mae CBDC wedi creu ‘PAWB Values’, ymgyrch sy’n amlygu gwerthoedd craidd CBDC, sef ‘Parch, Rhagoriaeth a Theulu’.

Yn Saesneg (Respect, Excellence, Family) mae egwyddorion canllaw CBDC yn ffurfio’r acronym ‘REF’ ac mae’r fersiwn hon o ymgyrch #PAWBValues ​​yn amlygu pwysigrwydd parchu pawb ar draws teulu pêl-droed Cymru i gefnogi datblygiad rhagoriaeth.

Mae’r tair egwyddor allweddol hyn ar waith i arwain pob agwedd ar waith CBDC ac maent yn werthoedd sy’n allweddol i dyfu a datblygu’r gêm yng Nghymru, a byddant yn parhau i gael lle amlwg ar draws holl fentrau CBDC y dyfodol. 

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.