Mae ein gwyliau ymhlith y gorau yn y byd. Mae’r Eisteddfod, Gŵyl y Gelli, y Dyn Gwyrdd, ac eraill, yn gartref dros-dro bob haf i’r rhai sy’n caru cerddoriaeth a’r celfyddydau.
Yn 2023, fe gyflwynwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau celfyddydol a phêl-droed ar draws nifer o’r uchafbwyntiau diwylliannol hyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru dan faner Gŵyl Cymru.
Fe ddechreuodd y tymor yng ngŵyl lenyddol y Gelli lle bu rhai o awduron amlycaf ein gwlad yn trafod gwaddol diwylliannol Cymru fel cenedl bêl-droed.
Yr awdur Darren Chetty oedd yn arwain sgwrs y Gelli. Yn hwyrach yn yr haf roedd yn ôl yn Gŵyl Cymru yn trafod ei gyfres ar gyfer Red Wall+, ‘The Dragon On My Shirt’, sy’n dathlu’r pêl-droedwyr Du sydd wedi cynrychioli Cymru. Roedd dangosiad cyntaf y gyfres yng Nghaerdydd a dangosiad arbennig yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd yn rai o uchafbwyntiau’r haf a daeth arwr Cymru a Wolves, George Berry, yn un o sêr y sgrin fawr.
Dywedodd Chetty: “Mae’n anarferol rhoi pêl-droed a’r celfyddydau gyda’i gilydd ond os edrychwch chi ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru, dwi’n meddwl ei fod yn digwydd yn fwy nag y mae mewn llawer o lefydd eraill.”
Roedd selogion y Wal Goch, Ani Glass, Yws Gwynedd a Dafydd Iwan ymysg perfformwyr cerddorol Gŵyl Cymru gyda llawer mwy yn diddanu yn FOCUS Wales, Eisteddfod yr Urdd, Tafwyl a Sesiwn Fawr Dolgellau.
Un o uchafbwyntiau Pride Cymru oedd Welsh Ballroom Community a’u gwisgoedd eiconig. Roedd eu cyfuniad beiddgar o ddawns a dillad retro Cymru yn atseinio dyddiau chwarae Toshack, Yorath a Flynn, wrth dangos ymrwymiad CBDC i gynhwysiant a hawliau ein cefnogwyr a chymunedau LGBTQIA+. Ymunodd Neville Southall, llysgennad CBDC, mewn undod, ac fe aeth hefyd i Sioe Frenhinol Cymru i drafod materion iechyd meddwl a phwysigrwydd siarad, gyda’r cyflwynydd teledu Sean Fletcher.
Mae Gŵyl Cymru yn ymfalchïo yn ein diwylliant dwyieithog. Dathlwyd llwyddiannau Joe Ledley a phrif weithredwr CBDC Noel Mooney fel siaradwyr Cymraeg newydd yn Tafwyl, a chafwyd amrywiaeth eang o ddigwyddiadau Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd – o gerddoriaeth a chomedi i sgyrsiau gyda chynllunydd yr het fwced enwog, Tim Williams o Spirit o 58, a seren ‘Welcome to Wrexham’ Spencer Harris. Bu Rob Page yn siarad yn Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri ac yna yn nhafarn gymunedol Yr Eagles yn Llanuwchllyn ym mis Medi – gyda Gwyneth Glyn a Twm Morys yn diddanu’r dorf i orffen noson hwyliog.
Daeth Gŵyl Cymru 2023 i ben yn yr hydref yng ngŵyl y Wal Goch yng Nghaerdydd a Wrecsam lle bu celfyddydau gweledol, comedi a thrafodaethau diwylliannol cyn buddugoliaeth tîm dynion Cymru dros Croatia. Cyfuniad perffaith o gelfyddyd, diwylliant a phêl-droed – dyna hanfod Gŵyl Cymru.
Ymlaen i 2024…