S4C i ddarlledu gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru tan 2028

Kiefer Moore celebrates the winning goal against Armenia

Bydd S4C yn darlledu holl gemau pêl-droed rhyngwladol dynion Cymru tan 2028 mewn cytundeb newydd mewn partneriaeth â Viaplay.

Mi fydd y ddarpariaeth Gymraeg yn cynnwys dwy ymgyrch nesaf Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ar gyfer 2024/25 a 2026/27, gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026 a gemau rhagbrofol UEFA EURO 2028.

Bydd gemau cyfeillgar rhyngwladol Cymru hefyd yn rhan o’r cytundeb hwn fydd yn gweld o leiaf 40 gêm fyw ar S4C.

Dywedodd Aaron Ramsey, Capten tîm dynion Cymru: “Mae’n newyddion gwych fod y gemau am fod ar gael i bawb ar S4C. Mae’n rhywbeth sydd hefyd yn hwb aruthrol i’r iaith Gymraeg. “Y nod i ni fel carfan yw cyrraedd rowndiau terfynol yr Ewros a Chwpan y Byd, ac rydym yn gobeithio bydd S4C yn rhannu ein llwyddiant gyda’r gwylwyr.”

Mae’r cytundeb rhwng y gwasanaeth ffrydio Viaplay a S4C yn bartneriaeth unigryw fydd yn caniatáu i S4C gael yr hawliau iaith Gymraeg yn ecsgliwsif yn y DU i ddarlledu’r gemau am ddim.

Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae ein partneriaeth gydag S4C wedi bod yn gonglfaen i dwf Y Wal Goch ac rydym yn hapus iawn fod gemau Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru am fod ar gael yn rhad ac am ddim i bawb. Rwyf am ddiolch i Viaplay, sydd wedi bod yn allweddol yn y cydweithio hyn i sicrhau bod ein gemau ar gael i bawb.”

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.