Mae Andy Dunbobbin, CHTh Gogledd Cymru mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru er mwyn annog pobl ifanc ledled Gogledd Cymru gymryd rhan mewn pêl droed dros wyliau’r haf.
Gyda gwyliau’r haf yn dynesu, mae clybiau a sefydliadau ieuenctid ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i ymgeisio am gyllid er mwyn cynnal gweithgareddau gan Gronfa Bêl Droed yr Haf arbennig Andy Dunbobbin sef y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh). Mae’r gronfa’n dechrau heddiw mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru.
O ystyried fod Cymru wedi mynd i Gwpan y Byd llynedd, cefnogaeth ragorol y Wal Goch, llwyddiant CCPD Wrecsam a Chwpan y Byd i Ferched sydd ar y gweill, nid oes amser gwell er mwyn dathlu ‘Y Gêm Hardd’ yng Ngogledd Cymru. Gobeithir y bydd cefnogaeth Cymdeithas Bêl Droed Cymru i’r ymgyrch yn hanfodol wrth annog sefydliadau ddod ymlaen a gwneud y mwyaf o’r cyllid ar gael gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a’i swyddfa.
Mae Cronfa Bêl Droed yr Haf wedi’i chreu er mwyn trechu problemau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, a all weld cynnydd dros fisoedd yr haf. Y nod ydy bydd y cyllid yn cyfrannu at weithgareddau pêl droed a chwaraeon er mwyn cadw plant a phobl ifanc yn brysur mewn ffordd gadarnhaol, wrth hefyd hyrwyddo gwaith tîm, ymarfer ac yn awyrgylch hwyliog a chynhwysol i bawb.
Mae’r arian sydd ar gael yn benodol ar gyfer chwaraeon dros yr haf yn agwedd arall o fenter Arloesi i Dyfu’r CHTh. Cafodd y fenter ei lansio llynedd ac mae’n cydnabod a chynorthwyo ariannu mentrau arloesol sy’n ymdrin ag achosion trosedd ledled y rhanbarth.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Rwyf yn gyffrous iawn dechrau fy Nghronfa Bêl Droed yr Haf. Rwyf yn credu bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc Gogledd Cymru yn ystod gwyliau’r haf. Mae chwaraeon yn ffordd wych o greu gweithgareddau tynnu sylw cadarnhaol i’n plant, gan adael iddynt fynegi eu hunain mewn ffordd hwyliog a chadarnhaol, wrth dreulio amser gyda’u ffrindiau. Mae hyn yn golygu eu bod yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch arall llai cadarnhaol fel ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae’r cynllun hwn yn ffordd bellach o gyflawni cymdogaethau mwy diogel i bawb, sy’n gonglfaen Cynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Rwyf yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth Cymdeithas Bel Droed Cymru i’r cynllun hwn. Rwyf yn gobeithio bydd yn llwyddiant mawr. Buaswn yn annog unrhyw glwb neu gymuned sy’n meddwl eu bod yn gymwys am gyllid i ymgeisio rŵan a chreu haf o bêl droed drwy Ogledd Cymru!”
Dywedodd Helen Antoniazzi o Gymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae clybiau pêl droed wrth galon cymunedau ledled gogledd Cymru. Mae Cronfa Bêl Droed yr Haf y CHTh yn rhoi cyfle gwych i’r clybiau hyn ymgysylltu plant a phobl ifanc o’u hardaloedd lleol mewn gweithgareddau hwyliog a fydd o fudd i’w lles corfforol a meddyliol wrth hefyd ddatblygu eu sgiliau. Hoffem weld clybiau yn bachu ar y cyfle hwn ac ymgeisio am y cyllid fel y gall cymaint o gymunedau â phosibl elwa yn ystod gwyliau’r haf.”
Mae ceisiadau ar agor ar unwaith a gall clybiau a sefydliadau cymunedol sydd â diddordeb yng Nghronfa Bêl Droed yr Haf wybod sut i ymgeisio yn adran Arloesi i Dyfu gwefan SCHTh yma: www.northwales-pcc.gov.uk/cy/arloesi-i-dyfu