Bydd gemau olaf Cymru yng nghystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd UEFA, yn erbyn Gwlad yr Iâ (Dydd Gwener 1 Rhagfyr) ac yr Almaen (Dydd Mawrth 5 Rhagfyr), yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd a’r Stadiwm Swansea.com.
Dyma’r tro gyntaf i’r bencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd UEFA cymryd lle yng ngêm y merched, a bydd Cymru yn dechrau ei ymgyrch wythnos nesaf i ffwrdd i Wlad yr Iâ (Dydd Gwener 22 Medi) ac adref i Ddenmarc (Dydd Mawrth 26 Medi).
Bydd carfan Gemma Grainger yn gobeithio tyfu ar y torfeydd mawr sydd wedi bod yn cefnogi’r tîm dros y ddwy flynedd nesaf, efo’r record ar 15,200 ar ôl y gêm Cwpan y Byd ail-gyfle yn erbyn Bosnia & Herzegovina mis Hydref diwethaf. Roedd y gêm ddiwethaf yn Abertawe hefyd yn erbyn yr un tîm ym mis Mehefin 2018 pan wnaeth gôl Kayleigh Green sicrhau buddugoliaeth 1-0.
Bydd tocynnau am y gemau yn mynd ar werth am 10am dydd Gwener 22 o Fedi ar wefan tocynnau CBDC, £10 am oedolion a £5 i blant. Bydd pris gostwng ar gael ar gyfer aelodau’r Wal Goch ac archebion o 10+ o docynnau, £8 am oedolion a £3 i blant. Bydd y gemau yn dechrau am 19:15 ond efallai bydd yr amser dechrau ar gyfer y gêm yn erbyn yr Almaen rhaid newid oherwydd rheolau UEFA.
Mae tocynnau ar gyfer y gêm gyntaf, yn erbyn Denmarc ar ddydd Mawrth 26 o Fedi yn Stadiwm Dinas Caerdydd (KO 19:15) ar gael nawr ar wefan tocynnau CBDC.