Carfan Cymru D21 wedi’i chyhoeddi ar gyfer Gwald yr Iâ

Mae Matty Jones wedi cyhoeddi ei garfan Cymru D21 ar gyfer gêm ragbrofol UEFA EWRO D21 2025 yn erbyn Gwlad yr Iâ.

Mae Jones, a arwyddodd estyniad cytundeb o ddwy flynedd tan 2028 yn ddiweddar, wedi enwi carfan o 20 chwaraewr ar gyfer gêm olaf ond un Gymru yn yr ymgyrch ragbrofol, a fydd yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth 10 Medi (CG 5:30pm).

Gwnaeth Fin Stevens a Charlie Crew eu hymddangosiadau cyntaf i’r garfan hŷn yn erbyn Gibraltar ym mis Mehefin ac maent wedi’u cynnwys yn y garfan dan 21.

Cafodd Matt Baker hefyd ei enwi yn y garfan hŷn yn ystod y ffenestr ryngwladol ddiwethaf ac mae wedi cael ei alw i fyny gan Jones ar gyfer y daith i Reykjavik.

Yn ymuno â nhw yn y garfan mae Joe Low, Charlie Savage, a Rubin Colwill, sydd â chyfanswm o 14 ymddangosiad i’r tîm hŷn rhyngddynt.

Mae Cymru’n ail yng Nghrŵp I ar ôl ennill tair buddugoliaeth a dwy gêm gyfartal yn yr ymgyrch ragbrofol hyd yn hyn, gyda’u hunig golled yn dod yn erbyn arweinwyr presennol y grŵp, Denmarc.

Cymru U21: Ed BEACH (Crawley Town – on loan from Chelsea), Evan WATTS (Swansea City), Fin STEVENS (St. Pauli), Luey GILES (Cardiff City), Matt BAKER (Newport County), Luca HOOLE (Shrewsbury Town), Joe LOW (Wycombe Wanderers), Zac ASHWORTH (Blackpool), Tom Davies (Cardiff City), Eli KING (Stevenage – on loan from Cardiff City), Oli HAMMOND (Oldham Athletic), Joel COTTERILL (Swindon Town – on loan from Swansea City), Charlie SAVAGE (Reading), Charlie CREW (Leeds United), Luke HARRIS (Birmingham City – on loan from Fulham), Rubin COLWILL (Cardiff City), Cian ASHFORD (Cardiff City), Pat JONES (Huddersfield Town), Josh THOMAS (Swansea City), Chris POPOV (Leicester City).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.