Carfan Cymru wedi’i chyhoeddi ar gyfer Liechtenstein a Gwlad Belg

Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi carfan o 27 o chwaraewyr ar gyfer y gemau allweddol yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026 yn erbyn Liechtenstein yn Stadiwm Dinas Caerdydd (nos Wener 6 Mehefin) a Gwlad Belg ym Mrwsel (nos Lun 9 Mehefin).

Mae Ethan Ampadu a Harry Wilson nôl yn y garfan ar ôl colli gemau agoriadol yr ymgyrch ym mis Mawrth oherwydd anaf. Mae Craig Bellamy hefyd wedi galw’r cefnwr Ronan Kpakio i’r garfan am y tro cyntaf ar ôl iddo cymryd rhan yng ngharfan hyfforddi’r wythnos ddiwethaf yng Nghaerdydd ac yn Sbaen.

Bydd sawl chwaraewr yn dod mewn i’r gemau wedi diweddglo llwyddiannus i’w tymorai gyda’u clybiau, gan gynnwys enillwyr Cynghrair Europa Ben Davies a Brennan Johnson a Connor Roberts, Karl Darlow, Joe Rodon, Ethan Ampadu, Daniel James a Chris Mepham, sydd wedi sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Archebwch eich tocynnau

Cymru v Liechtenstein

Dydd Gwener 6 Mehefin, Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae’r gêm yn erbyn Liechtenstein ar y trywydd i werthu allan yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gydag tocynnau dal ar gael i’w prynu. Bydd 4,500 o gefnogwyr hefyd yn rhan o’r Wal Goch ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Brenin Baudouin.

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn ail yn Grŵp J ar ôl ennill 3-0 yn erbyn Kazakhstan a chael gêm gyfartal 1-1 i ffwrdd yn erbyn Gogledd Macedonia. Bydd enillydd y grŵp yn cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Bydd y pedwar lle sydd ar ôl yn y gystadleuaeth yn cael eu penderfynu trwy gemau ail-gyfle sy’n cynnwys yr 12 tîm a orffennodd yn ail yn eu grwpiau a phedwar tîm o’r pencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd llynedd.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Liechtenstein (Cic gyntaf 7:45pm) ar gael i’w prynu ar wefan docynnau CBDC.

Cymru: Karl DARLOW (Leeds United), Danny WARD (Leicester City), Adam DAVIES (Sheffield United), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Jay DASILVA (Coventry City), Connor ROBERTS (Burnley), Ronan KPAKIO (Cardiff City), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Chris MEPHAM (Sunderland- On loan from Bournemouth), Ben CABANGO (Swansea City), Joe RODON (Leeds United), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Charlie CREW (Doncaster Rovers- On loan from Leeds United), Ethan AMPADU (Leeds United), Jordan JAMES (Stade Rennais), Ollie COOPER (Swansea City), Harry WILSON (Fulham), David BROOKS (Bournemouth), Sorba THOMAS (Nantes- On loan from Huddersfield Town), Liam CULLEN (Swansea City), Nathan BROADHEAD (Ipswich Town), Lewis KOUMAS (Stoke City- On loan from Liverpool), Rabbi MATONDO (Hannover 96- On loan from Rangers), Kieffer MOORE (Sheffield United), Mark HARRIS (Oxford United), Brennan JOHNSON (Tottenham Hotspur), Daniel JAMES (Leeds United). 

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.