Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi garfan o 26 o chwaraewyr ar gyfer gemau olaf Cymru yn ei grŵp Cynghrair y Cenhedloedd UEFA i ffwrdd yn erbyn Twrci ac yna yn erbyn Gwlad yr Iâ yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd Dan James rhan o garfan Craig Bellamy am y tro cyntaf, ar ôl colli’r pedair gêm diwethaf oherwydd anaf, ac mae Rubin Colwill a Tom King yn dychwelyd i’r garfan. Mae’r amddiffynnwr Joe Rodon ar fin ennill ei hanner canfed cap i Gymru, ond mae Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu yn colli allan eto oherwydd anafiadau, gyda Ollie Cooper yn ymuno efo nhw ar y rhestr anafiadau.
Bydd Cymru yn teithio i Kayseri i wynebu Twrci ar ddydd Sadwrn 16 Tachwedd cyn wynebu Gwlad yr Iâ yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Mawrth 19 Tachwedd. Mae Bellamy wedi cael dechreuad cryf fel rheolwr y Tîm Cenedlaethol gyda dwy fuddugoliaeth a dwy gêm gyfartal, ac os bydd ei dîm yn ennill y ddwy gêm nesaf, bydd Cymru yn cael dyrchafiad i Gynghrair A ar gyfer ymgyrch nesaf Cynghrair y Cenhedloedd UEFA.
Oes bydd Cymru’n gorffen yn ail yn y grŵp, byddant yn cymryd rhan mewn rownd ail-gyfle yn erbyn tîm o Gynghrair A ym mis Mawrth am gyfle i ennill dyrchafiad, gyda’r gwrthwynebwyr yn cael ei ddarganfod ar ddydd Gwener 22 Tachwedd. Hefyd, yn dilyn y gemau rhyngwladol, bydd Cymru’n darganfod ei gwrthwynebwyr ar gyfer rownd ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026, gyda’r enwau yn cael ei tynnu allan o’r het ar ddydd Gwener 13 Rhagfyr.
Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad yr Iâ (KO 19:45) ar gael i’w phrynu ar wefan docynnau CBDC.
Cymru: Danny WARD (Leicester City), Karl DARLOW (Leeds United), Tom KING (Wolverhampton Wanderers), Rhys NORRINGTON-DAVIES (Sheffield United), Owen BECK (Blackburn Rovers- On loan from Liverpool), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Ben CABANGO (Swansea City), Joe RODON (Leeds United), Chris MEPHAM (Sunderland- On loan from Bournemouth), Connor ROBERTS (Burnley), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Jordan JAMES (Stade Rennais), Rubin COLWILL (Cardiff City), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Joe ALLEN (Swansea City), Harry WILSON (Fulham), David BROOKS (Bournemouth), Daniel JAMES (Leeds United), Sorba THOMAS (Nantes- On loan from Huddersfield Town), Wes BURNS (Ipswich Town), Brennan JOHNSON (Tottenham Hotspur), Kieffer MOORE (Sheffield United), Mark HARRIS (Oxford United), Nathan BROADHEAD (Ipswich Town), Lewis KOUMAS (Stoke City- On loan from Liverpool), Liam CULLEN (Swansea City).