Live reporting: Cymru v Kazakhstan

Carfan Cymru wedi’i cyhoeddi ar gyfer gemau agoriadol Cynghrair y Cenhedloedd 

Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi ei charfan ar gyfer gemau agoriadol Cymru ym mhencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA, oddi cartref yn erbyn yr Eidal ac adref yn erbyn Sweden yn y StōK Cae Ras yn Wrecsam.

Bydd Elise Hughes ac Esther Morgan yn dychwelyd i’r garfan ar ôl anafiadau hirdymor, tra bydd Scarlett Hill yn rhan o’r garfan am y tro gyntaf. Ni fydd Rachel Rowe ar gael oherwydd anaf, tra bod Sophie Ingle yn parhau i wella o anaf ACL.

Oes bydd Hayley Ladd yn cymryd rhan mewn un o’r gemau, bydd hi’n cyrraedd 100 o gapiau dros Gymru.

Cafodd Cymru ei dyrchafu i Gynghrair A yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ôl sicrhau lle ym Mhencampwriaeth UEFA EURO Menywod am y tro gyntaf, a fydd yn cymryd lle yn y Swistir dros yr haf.

Bydd ymgyrch y Gynghrair Cenhedloedd yn dechrau yn Stadio Brianteo yn Monza yn erbyn yr Eidal ar ddydd Gwener 21 Chwefror (Cic gyntaf am 5:15pm GMT), cyn y gêm yn erbyn Sweden yn Wrecsam ar ddydd Mawrth 25 Chwefror (Cic gyntaf am 7:15pm GMT).

Bydd carfan Wilkinson yn dychwelyd i Wrecsam am y tro cyntaf ers Ebrill 2024, ac mae’r dorf am y gêm yn erbyn Sweden wedi orchafu y 4,117 a fynychodd y gêm yn erbyn Croatia y llynedd yn barod. Mae tocynnau am y gêmar gael i’w prynu ar wefan docynnau’r CBDC, gyda phrisiau o £10 i oedolion a £5 i blant, gyda gostyngiadau ar gael i aelodau’r Wal Goch.

Cymru: Olivia CLARK (Leicester City), Laura O’SULLIVAN-JONES (Gwalia United), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Rhiannon ROBERTS (Real Betis), Josie GREEN (Crystal Palace), Charlie ESTCOURT (DC Power), Hayley LADD (Everton), Gemma EVANS (Liverpool), Mayzee DAVIES (Manchester City), Lily WOODHAM (Crystal Palace- On loan from Seattle Reign), Ella POWELL (Bristol City), Scarlett HILL (Manchester United), Esther MORGAN (Sheffield United), Alice GRIFFITHS (Durham- On loan from Southampton), Angharad JAMES (Seattle Reign), Lois JOEL (Newcastle United), Carrie JONES (IFK Norrköping), Ffion MORGAN (Bristol City), Jess FISHLOCK (Seattle Reign), Ceri HOLLAND (Liverpool), Ellen JONES (Sunderland), Kayleigh BARTON (Charlton Athletic), Mary MCATEER (Sunderland), Mared GRIFFITHS (Manchester United), Hannah CAIN (Leicester City), Elise HUGHES (Crystal Palace).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.