Carfan Cymru wedi’i cyhoeddi ar gyfer gemau ail-gyfle rownd gyn-derfynol EURO

Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr wrth i Gymru edrych i wneud hanes a chyrraedd pencwmpwriaeth rhyngwladol am y tro cyntaf.

Gall Cymru fod bedair gêm i ffwrdd o gyrraedd rowndiau terfynol UEFA EURO Menywod 2025 yn y Swistir yr haf nesaf, gan ddechrau gyda gemau ail-gyfle rownd gyn-derfynol yn erbyn Slofacia yn Poprad (Dydd Gwener 25 Hydref) a Stadiwm Dinas Caerdydd (Dydd Mawrth 29 Hydref).

Bydd Angharad James yn ymuno efo’r carfan fel capten am y tro gyntaf gyda Ceri Holland ac Hayley Ladd yn ymuno fel is-gapteiniad. Ni fydd Sophie Ingle ar gael oherwydd anaf ACL yn ystod y cyfnod gyn-dymor, ond fydd Josie Green ac Anna Filbey yn dychwelyd i’r garfan.

Mae Wilkinson hefyd wedi dewis tri blaenwr ddi-gap; Mared Griffiths, Tianna Teisar a Charlotte Lee, a fydd yn rhan o’r garfan am y tro gyntaf ar ôl bod yn rhan o’r tîm D19 tymor diwethaf. Mae Hannah Cain yn dychwelyd i’r garfan gyda’r CBDC yn gweithio ochr yn ochr â Leicester City ar y camau olaf wrth iddi hi ddod nol o anaf ACL.

Mae Cymru yn mynd i mewn i’r rownd ail-gyfle heb golli gêm yn 2024. Yn ystod yr ymgyrch ragbrofol hyd yn hyn, mae tîm Wilkinson wedi ennill pedair gêm a chael dwy gêm gyfartal, gan sgorio deunaw gôl yn y broses. Os bydd Cymru yn symud ymlaen i’r rownd derfynol, byddant yn chwarae dwy gêm yn erbyn naill ai Georgia neu Weriniaeth Iwerddon ar Ddydd Gwener 29 Tachwedd a Dydd Mawrth 3 Rhagfyr i benderfynu pwy fydd yn cyrraedd y rowndiau terfynol EURO.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Slofacia yng Ngaerdydd (Cic gyntaf 7:15pm) ar gael i’w brynu ar wefan docynnau CBDC, yn costio £10 i oedolion a £5 i blant, gyda phrisiau gostwng ar gael i aelodau‘r Wal Goch.

Cymru: Olivia CLARK (FC Twente), Laura O’SULLIVAN-JONES (Gwalia United), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Rhiannon ROBERTS (Real Betis), Josie GREEN (Crystal Palace), Charlie ESTCOURT (DC Power), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Liverpool), Mayzee DAVIES (Liverpool Feds- Dual contract with Manchester United), Lily WOODHAM (Crystal Palace- On loan from Seattle Reign), Ella POWELL (Bristol City), Anna FILBEY (Watford), Alice GRIFFITHS (Southampton), Angharad JAMES (Seattle Reign), Lois JOEL (Newcastle United), Rachel ROWE (Southampton), Carrie JONES (IFK Norrköping), Ffion MORGAN (Bristol City), Jess FISHLOCK (Seattle Reign), Ceri HOLLAND (Liverpool), Charlotte LEE (Aston Villa), Kayleigh BARTON (Charlton Athletic), Mary MCATEER (Sunderland), Mared GRIFFITHS (Manchester United), Tianna TEISAR (Bristol City).

Archebwch eich tocyn

Cymru v Slofacia

Dydd Mawrth 29 Hydref, Stadiwm Dinas Caerdydd

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.