Carfan Cymru wedi’i cyhoeddi ar gyfer gemau olaf Cynghrair y Cenhedloedd

Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi carfan o 26 o chwaraewyr ar gyfer dwy gêm olaf ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA.

Bydd Cymru yn teithio i Odense i wynebu Denmarc yn Stadiwm Odense ar nos Wener 30 Mai (KO 6:15pm) cyn chwarae’r Eidal yn Stadiwm Swansea.com ar nos Fawrth 3 Mehefin (KO 6:30pm).

Mae Mared Griffiths a Soffia Kelly wedi cael eu dewis ar ôl bod yn rhan o’r garfan D19 yn y rownd ragbrofol UEFA EURO ym mis Ebrill, lle gorffennodd y tîm yn ail yn eu grŵp.

Mae Laura O’Sullivan-Jones dim ar gael oherwydd anaf ACL.

Chwaraeodd tîm Rhian Wilkinson yn erbyn Denmarc yng Nghaerdydd y mis diwethaf, lle wnaeth y tîm colli 2-1. Mae Cymru yn dod i mewn i’r gemau yma oddi ar gefn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Sweden yn Gothenburg, tîm a oedd yn bumed yn y byd ar y pryd. 

Bydd Cymru yn gobeithio am ddau ganlyniad positif i gadw eu lle yng Nghynghrair A.

Y gêm yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm Swansea.com bydd y gêm olaf i’r tîm yng Nghymru cyn y pencampwriaeth UEFA EWRO Menywod 2025 yn y Swistir, sef y tro gyntaf bydd y tîm yn cystadlu mewn pencampwriaeth ryngwladol.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn yr Eidal ar gael i’w prynu ar wefan docynnau CBDC, gyda phris o £10 i oedolion a £5 i blant, gyda gostyngiadau ar gael i aelodau’r Wal Goch.

Cymru: Olivia CLARK (Leicester City), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Soffia KELLY (Aston Villa), Poppy SOPER (Blackburn Rovers), Rhiannon ROBERTS (Real Betis), Josie GREEN (Crystal Palace), Charlie ESTCOURT (DC Power), Hayley LADD (Everton), Gemma EVANS (Liverpool), Mayzee DAVIES (Manchester City), Lily WOODHAM (Crystal Palace- On loan from Seattle Reign), Ella POWELL (Bristol City), Esther MORGAN (Sheffield United), Alice GRIFFITHS (Durham- On loan from Southampton), Angharad JAMES (Seattle Reign), Lois JOEL (Newcastle United), Carrie JONES (IFK Norrköping), Ffion MORGAN (Bristol City), Jess FISHLOCK (Seattle Reign), Ceri HOLLAND (Liverpool), Rachel ROWE (Southampton), Kayleigh BARTON (Charlton Athletic), Tianna TEISAR (Bristol City), Hannah CAIN (Leicester City), Elise HUGHES (Crystal Palace), Mared GRIFFITHS (Manchester United).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.