
Bydd Rhian Wilkinson yn cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer pencampwriaeth UEFA EURO Menywod 2025 ar ddydd Iau 19 o Fehefin ar gopa’r Wyddfa, copa uchaf Cymru.
Mae copa’r Wyddfa, sydd 1,085 metr uwchben lefel y môr, yn edrych dros Barc Genedlaethol Eryri yng ngogledd Cymru ac fe fydd y garfan yn cael ei chyhoeddi mewn cynhadledd i’r wasg arbennig yn Hafod Eryri ar gopa’r mynydd.
Bydd y cyfryngau’n cael eu gwahodd i’r digwyddiad ac yn teithio i’r copa ar tren Reilffordd Mynyddoedd yr Wyddfa.
Bydd y cyhoeddiad carfan ar ddydd Iau 19 Mehefin yn cynnwys cyfres o weithgareddau yn ardal Gwynedd drwy gydol y dydd, gan gynnwys gŵyl bêl-droed ar gae newydd ariennir gan y Cymru Football Foundation yn Nhalysarn, a noson holi ac ateb gyda cherddoriaeth fyw.
Bydd rhagor o wybodaeth am y noson holi ac ateb yn cael ei chyhoeddi maes o law.
Mae’r cyhoeddiad carfan yn nodi tro’r cyntaf bydd Cymru yn gystadlu mewn rowndiau terfynol gêm y menywod, ac yn cyd-fynd a slogan UEFA ar gyfer y pencampwriaeth yn y Swistir, ‘the summit of emotions’ (copa’r emosiynau).
Cymru v Yr Eidal
Stadiwm Swansea.com, Dydd Mawrth 3 Mehefin
Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Rhian Wilkinson:
“Bydd cyhoeddi ein carfan EUROs ar gopa Cymru yn achlysur gwirioneddol arbennig. Mae’r ardal yn agos iawn at fy nghalon ar ôl ymweld â hi’n rheolaidd gyda’m teulu pan o ni’n tyfu i fyny yng Nghymru, ac mae’n hefyd yn lle sy’n arbennig iawn i sawl un o’n chwaraewyr.”
“Rydym yn gobeithio y bydd cynnal y digwyddiad ar y copa’n arddangos harddwch naturiol ein gwlad ac yn helpu i roi Cymru ar lwyfan byd-eang yn ystod yr EUROs dros yr haf.”
Yn y cyfamser, mae Wilkinson a’i thîm wrthi’n paratoi ar gyfer eu gemau Cynghrair y Cenhedloedd olaf. Y gêm Cymru yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm Swansea.com (6:30pm, dydd Mawrth 3 Mehefin) bydd gêm olaf y tîm cyn yr EUROs, ac y gyfle olaf i ddangos eich cefnogaeth i’r tîm. Mae tocynnau dal ar gael ar wefan docynnau CBDC.