
Mewn gweithred bwerus o undod a chyfrifoldeb byd-eang, mae Maint Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) wedi dod at ei gilydd i gefnogi menywod Brodorol sy’n diogelu coedwigoedd trofannol y byd – ac mae hyn yn cyd-fynd â pharatoi Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru ar gyfer cymryd rhan ym mhencampwriaeth UEFA Euro 2025.
Ar ddydd Sul 22 Mehefin, cyflwynodd Maint Cymru freichledi wedi’u gwneud â llaw-wedi’u crefftio gan fenywod Brodorol o Genedl y Wampís yn yr Amazon ym Mheriw – i Rhian Wilkinson. Mae’r breichledi hyn, sydd wedi cael eu gwneud yn defnyddio hadau sanctaidd yr Amazon, yn symboleiddio bywyd, diogelwch, a lles. Mae ganddynt ystyr ysbrydol dwfn, ac maen nhw’n cael eu cynnig fel arwydd o lwc dda i’r tîm, ac fel symbol o undod rhwng Cymru a’r Amazon.
“Mae’r breichledi hyn yn fwy na rhodd – maen nhw’n neges,“meddai Barbara Davies Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru.
“Maen nhw’n cynrychioli cryfder ac ysbryd y menywod Brodorol sy’n diogelu coedwigoedd trofannol sydd yn bwysig dros ben er mwyn mynd i’r afael â’r newid hinsawdd. Mae’n symbol hyfryd o ymrwymiad Cymru i fod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.”
Mae’r cyfnewid symbolaidd hwn o freichledi yn adleisio menter “Breichledau: For Her” Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd, sy’n gwahodd cefnogwyr i ddangos undod gyda Thîm Menywod Cymru trwy gyfrwng breichledi cyfeillgarwch wedi’u gwneud â llaw. Gyda’n gilydd, mae’r weithred hon, o Gymru i’r Amazon, yn dangos sut y gall gweithredoedd bychain o gysylltiad drosglwyddo negeseuon pwerus o undod a chefnogaeth.
Diogelu Coedwigoedd, Diogelu’r Dyfodol
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o fenter unigryw gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru i gefnogi menywod Brodorol o Genedl y Wampís a Phobl y Guarani ym Mrasil – sydd ar y rheng flaen o ran diogelu dau o’r coedwigoedd trofannol mwyaf pwysig a’r rhai sydd fwyaf dan fygythiad yn y byd.
Tra bod menywod Cymru’n mynd allan ar y cae, mae’r menywod Brodorol hyn yn brwydro i ddiogelu eu tir, eu diwylliannau, a’u bioamrywiaeth – ac yn aml, yn rhoi eu hunain mewn perygl mawr. Bydd y cymorth hwn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn helpu i ariannu’r canlynol;
- Creu crefftau cynaliadwy dan arweiniad menywod yng nghenedl y Wampís a mynediad i farchnad gynaliadwy.
- Hyfforddiant mewn cadwraeth ddiwylliannol, arweinyddiaerth a chymryd rhan ar gyfer menywod Guarani.
Mae’r ymdrechion hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ac yn atgyfnerthu ei hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, gweithredu yn erbyn newid hinsawdd, a hawliau gwledig.
“Hoffen ni, grwp o grefftwyr Merched y Wampis ddiolch i ferched Cymru am ein cefnogi ni. A dymunwn pob llwyddiant iddyn nhw yn y bencampwriaeth. Diolch o galon ichi. Til Juminsajme!” meddai Almendra Monsalve Shirap, arweinydd Wampís o fasn afon Kanus.
“Mae pêl-droed yn ysbrydoli undod, gwydnwch a gobaith – gwerthoedd sydd yn cael eu rhannu gan y menywod gwledig rydym yn eu cefnogi,
” meddai Helen Antoniazzi, Pennaeth Materion Cyhoeddus a Chynaliadwyedd, Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Mae’r bartneriaeth hon yn dangos bod Cymru’n chwarae ei rhan o ran diogelu’r blaned – ac yn sefyll ysgwydd i ysgwydd gyda’r rheini sy’n ei hamddiffyn bob dydd.”