
ToI ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025 (IWD), mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn falch o gyhoeddi’r Gynhadledd Menywod a Merched CBDC gyntaf erioed, a fydd yn cael ei chynnal ym mis Ebrill.
Gan ganolbwyntio ar thema IWD 2025, ‘Cyflymu Gweithredu’, bydd y gynhadledd yn dod â rhanddeiliaid allweddol o fyd pêl-droed Cymru, busnes, llywodraeth, a’r teulu pêl-droed ehangach at ei gilydd i yrru’r weledigaeth hirdymor ar gyfer pêl-droed menywod a merched yng Nghymru.
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer yr haf hanesyddol ym Mhencampwriaeth UEFA EWRO 2025, bydd y digwyddiad yma yn chwarae rhan allweddol wrth lunio cynlluniau etifeddiaeth y twrnamaint ac yn sicrhau bod cyfranogiad Cymru yn yr EWROs yn gadael effaith barhaol ar ddyfodol pêl-droed yng Nghymru.
Bydd y gynhadledd arloesol hon yn dathlu’r cynnydd hyd yn hyn, wrth amlinellu’r camau nesaf i dyfu’r gêm ymhellach, cynyddu cyfranogiad, a chreu newid parhaol.
Beth i’w ddisgwyl:
- Trafodaethau Panel Ysbrydoledig – Gwrandewch ar ffigurau dylanwadol ar draws y gêm wrth iddynt rannu eu profiadau, yr heriau y maent wedi’u hwynebu a’r gwersi y maent wedi’u dysgu.
- Cynlluniau Etifeddiaeth UEFA EWRO 2025 – Dysgwch am gynlluniau CBDC i godi proffil pêl-droed menywod a sicrhau effaith barhaol y tu hwnt i’r twrnamaint.
- Partneriaeth Canlyniadau Cymdeithasol CBDC – Darganfyddwch sut y gall cydweithio feithrin newid ystyrlon a hirdymor yn y gymuned bêl-droed a thu hwnt.
- Grwpiau Rhyngweithiol ac Addewidion – Cyfrannwch at lunio dyfodol i feysydd allweddol yn y gêm, gan gynnwys cyfranogiad, ymgysylltu a phobl.
- Cyfleoedd Rhwydweithio – Cysylltwch â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol, cyfnewid syniadau a meithrin perthnasoedd i gyflymu cynnydd ym maes pêl-droed menywod.

Bydd yn rhan o’r newid
Mae’r gynhadledd hon yn cynnig cyfle gwych i gyfrannu at drafodaethau, cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol, a gwneud addewid i gefnogi cenhadaeth CBDC ar gyfer amgylchedd pêl-droed mwy cynhwysol a ffyniannus i fenywod a merched.
Drwy ymuno â CBDC, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y mudiad i greu etifeddiaeth a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Cofrestrwch eich diddordeb i fynychu yma.
Manylion y Digwyddiad:
Dyddiad: Dydd Iau, 10 Ebrill 2025
Lleoliad: Stadiwm Dinas Caerdydd
Amser: 10:00 AM – 3:00 PM
Cofrestrwch eich diddordeb: here