CBDC yn ymrwymo i £3m o gyllid ar gyfer Pencampwriaeth D19 UEFA yn 2026 yng Ngogledd Cymru wrth i leoliadau arfaethedig gael eu cyhoeddi

Yr Oval, Caernarfon

Wrth baratoi i gynnal Pencampwriaeth dynion D19 UEFA yng Ngogledd Cymru, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn cyhoeddi buddsoddiad sylweddol o £3m i gyfleusterau ar gyfer y twrnamaint a fydd yn cael ei gynnal rhwng Mehefin a Gorffennaf 2026.

Dyfarnwyd Pencampwriaeth D19 i Gymru gan UEFA ym mis Medi 2023 a bydd twrnamaint y rowndiau terfynol yn cael ei ddefnyddio i ddathlu penblwydd 150 CBDC. Bydd wyth tîm yn cystadlu yn y rowndiau terfynol, gyda saith tîm yn symud ymlaen trwy ddwy rownd ragbrofol i ymuno â Chymru fel y gwesteiwyr.

Mae’r lleoliadau canlynol wedi cael eu nodi ar draws Gogledd Cymru:

Stadia:

  • Stadiwm Nantporth, Bangor
  • Parc Canolog, Dinbych
  • Yr Oval, Caernarfon
  • STōK Cae Ras, Wrecsam

Lleoliadau Hyfforddi:

  • Ffordd Llanelian, Bae Colwyn
  • Parc y Glowyr, Gresffordd
  • Y Globe, Bwcle
  • Meysydd Chwarae Coffa, Rhuthun
  • Belle Vue, Y Rhyl
  • Yr Oval Newydd, Caergybi
  • Cae Sling, Penmaenmawr

Bydd talent ifanc orau o bob rhan o’r cyfandir yn dod i Gymru ar gyfer y Bencampwriaeth D19 gan fod y twrnamaint yn adnabyddus am arddangos y sêr y dyfodol, gyda Kylian Mbappè ac Erling Haarland wedi cymryd rhan yn y gorffennol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi cymhwyso ddwywaith ar gyfer fersiwn D17 y twrnamaint ac wedi rhoi profiad twrnamaint i chwaraewyr Cymru. Ers hynny mae Charlie Crew, a gymerodd ran yn y twrnamaint hwnnw, wedi cael ei alw i Dîm Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol CBDC: “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan GBDC i gyfleusterau ar draws Gogledd Cymru ac mae’n gam allweddol arall i adeiladu diwydiant pêl-droed yng Nghymru sy’n cynrychioli cenedl bêl-droed fodern, flaengar.

“Rydym yn falch iawn o allu buddsoddi ein harian mewn safleoedd pêl-droed allweddol ar draws Gogledd Cymru wrth i ni baratoi i gynnal Pencampwriaeth dynion D19 UEFA ym Mangor, Bwcle, Caernarfon, Bae Colwyn, Dinbych, Caergybi, Penmaenmawr, Y Rhyl, Rhuthun a Wrecsam.”

Mae datblygu pêl-droed yng Nghymru wedi bod yn flaenoriaeth strategol i GBDC ac mae’r buddsoddiad hwn o £3m yn dilyn cyllid sylweddol arall sy’n cael ei ddefnyddio i dyfu’r gêm.

Cyhoeddodd y Cymru Football Foundation yn ddiweddar ei fod wedi buddsoddi £17m ers 2022 i brosiectau ledled y wlad i ddatblygu cyfleusterau pêl-droed sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Yn y cyfamser, cyhoeddwyd y buddsoddiad unigol mwyaf erioed i JD Cymru Premier eleni gyda dros £6m yn cael ei neilltuo ar gyfer datblygu’r gynghrair trwy gynllun strategol newydd.

Bydd y buddsoddiad Pencampwriaeth D19, y bydd DCMS a’r English Premier League yn cyfrannu tuag ato, hefyd yn cael effaith ar strategaeth JD Cymru Premier gan fod llawer o’r lleoliadau a fydd yn derbyn cyllid yn cynnal clybiau sy’n cymryd rhan neu’n anelu at fod yn y JD Cymru Premier.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bencampwriaeth D19 ar gael drwy fynd i wefan UEFA.