CBDC yn ymuno â’r bardd Duke Al cyn gemau ail gyfle UEFA EURO 2025

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn falch o gyhoeddi cydweithrediad cyffrous gyda’r bardd gair llafar, Duke Al, i dynnu sylw at bwysigrwydd cefnogaeth gwrywaidd cyn gemau ail gyfle UEFA EURO Menywod cyntaf Cymru yn erbyn Slofacia.

Roedd cerdd Martha Appleby wedi taro tant gyda llawer o bobl yn 2021, gan gynnig farddoniaeth teimladwy ar yr heriau sy’n wynebu menywod mewn pêl-droed a’r ymdeimlad o gael eich anwybyddu pan ddywedodd yr enillydd cystadleuaeth farddoniaeth CBDC a Llenyddiaeth Cymru “Rwy’n ferch, rwy’n bêl-droediwr, rwy’n anweledig.”

Wrth ymateb i gerdd Appleby dair blynedd yn ddiweddarach, mae Duke Al yn dod â safbwynt newydd drwy ei farddoniaeth, nid yn unig drwy ddathlu taith Cymru, ond hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogaeth gwrywaidd wrth gefnogi pêl-droed menywod.

Mae’r gerdd yn tynnu sylw at bwrpas uwch y tîm ‘Amdanom Ni. Amdanyn Nhw. Amdani Hi.’ sy’n canolbwyntio ar ysbrydoli cenhedlaeth o bêl-droedwyr yn y dyfodol, gan gydnabod yr arloeswyr a baratôdd y ffordd ar gyfer dîm Rhian Wilkinson a’u huchelgeisiau eu hunain.

Nod amseriad rhyddhau’r gerdd yw i godi cefnogaeth ac ysbrydoli’r chwaraewyr wrth iddynt baratoi ar gyfer y foment hanfodol hon yn eu hymgyrch rhagbrofol, a’u nod i greu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth rhyngwladol am y tro cyntaf.

Mae’r cydweithrediad hefyd yn nodi filltir garreg arall yn ymrwymiad CBDC i gysylltu celfyddydau, diwylliant a phêl-droed Cymru, ac yn dathlu undod a chryfder hunaniaeth Gymreig.

Wrth siarad am y cydweithrediad, dywedodd Duke Al: “Mae wastad wedi bod yn uchelgais i mi i weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, felly rwy’n teimlo’n freintiedig o gael y cyfle i gydweithio gyda nhw a’r cynhyrchydd cerddoriaeth MAK dros y misoedd diwethaf i gynhyrchu’r gerdd hon.

“Nod y gerdd yw i ddathlu’r eiliadau allweddol trwy gydol yr ymgyrch ragbrofol a llwyddiant y tîm o gyrraedd gemau ail gyfle UEFA Ewro Menywod am y tro gyntaf, a hefyd dathlu’r cysylltiad arbennig rhwng y chwaraewyr a’r Wal Goch.

“Mae’r grŵp hyn o chwaraewyr yn cynrychioli cymaint mwy na phêl-droed yn unig ac roedd yn ysbrydoledig dysgu mwy am bwrpas uwch y tîm a’r hyn maen nhw’n chwarae dros. Maen nhw’n arwyr, yn wneuthurwyr hanes ac yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc ar draws y wlad.

“Mae’n anrhydedd i mi ddefnyddio fy ngeiriau i’w cefnogi wrth iddynt fynd i mewn i’r gemau ail- gyfle hanfodol yma, a gobeithio byddan nhw’n cael eu croesawu gan dorf gryf ar gyfer yr ail gymal yng Nghaerdydd.”

Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Cymru, Rhian Wilkinson: “Mae geiriau pwerus Duke wir yn cyfleu beth mae’r tîm hwn yn sefyll amdano, ‘Amdanom Ni. Amdanyn Nhw. Amdani Hi.’ Mae’r tîm Cymru hyn yn gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, wrth anrhydeddu’r rhai a baratôdd y ffordd i ni. Rydyn ni eisiau ymhelaethu ar neges bwysig cerdd Martha Appleby, na ddylai unrhyw chwaraewr fyth deimlo’n anweledig.

“Nod y cydweithrediad hwn yw i ysbrydoli pobl ar draws Cymru i gefnogi a hyrwyddo’r gêm merched yn weithredol. Mae CBDC yn cydnabod bod sicrhau gwir gydraddoldeb ar draws y gêm yn gofyn am gyfranogiad gweithredol a chefnogaeth gan bawb, waeth beth fo’u rhyw.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gynyddol, a gyda’n gilydd gallwn barhau i dorri lawr rhwystrau a chreu hanes.”

Bydd y gerdd yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd fel rhan o’r paratoadau cyn y gêm ail gymal o’r gemau ail gyfle, a gynhelir ddydd Mawrth 29 Hydref (CG 19:15). Gellir prynu tocynnau trwy glicio yma.

Archebwch eich tocyn

Cymru v Slofacia

Dydd Mawrth 29 Hydref, Stadiwm Dinas Caerdydd

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.