Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn falch o gyhoeddi penodiad Chris Gunter fel prif hyfforddwr Cymru Dynion Dan 19.
Enillodd Gunter, sy’n gweithio tuag at ei Drwydded Pro UEFA CBDC, 109 o gapiau yn ystod ei yrfa 15 mlynedd gyda Chymru cyn cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol ym mis Mawrth 2023.
Yna ymunodd â’r staff cefnogol y garfan hŷn fel Hyfforddwr Datblygu Tîm Cenedlaethol yn ddiweddarach y mis hwnnw, gan chwarae rhan wrth helpu Cymru i gyrraedd rownd derfynol y gemau ail-gyfle UEFA EURO 2024 ac yn helpu chwaraewyr ifanc i drosglwyddo i’r amgylchedd hŷn.
Bydd y cyn- amddiffynnwr nawr yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni a gweithredu egwyddorion tactegol ‘Ffordd Cymru’ gyda thîm dynion o dan 19 ac yn parhau i gefnogi gwaith CBDC i sicrhau talent yn y llwybr tîm cenedlaethol.
Bydd Gunter yn treulio’r misoedd nesaf yn paratoi ei dîm ar gyfer rownd gyntaf gemau rhagbrofol UEFA EURO 2024/25 wrth i Gymru baratoi i wynebu Ffrainc, yr Alban a Liechtenstein.
Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Gunter: “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle ac yn gyffrous i ddechrau mewn rôl wahanol.
“Mae’n gyfle da i mi ddysgu a gwella fy ochr i, ond yn bwysicach yn hynny, rwyf am roi fy nghefnogaeth a fy mhrofiad i’r chwaraewyr ifanc sy’n dod drwodd.
“Gan fod gen i’r profiad o ddod drwy’r llwybr gyda’r timoedd o dan 17, 19, 21 ac yna’r tîm hŷn, rwy’n credu y gall hynny fy helpu yn y rôl hon.
“Mae pawb yn gweld y tîm hŷn fel yr un pwysicaf, sy’n wir oherwydd mai dyma’r lefel lle mae’r canlyniadau a’r cymwysterau yn fwyaf pwysig. Ond o dan hynny, mae’r cyfrifoldeb arnaf i ac ar yr hyfforddwyr eraill y grwpiau oedran, sydd wedi bod yn gwneud yn dda iawn, i hwyluso hynny. Rydyn ni eisiau rhoi’r chwaraewyr gorau yn y lle gorau i Craig a gweddill y staff hŷn, felly mae’n gyffrous.”
Dywedodd David Adams, Prif Swyddog Pêl-droed CBDC: “Rydym yn falch iawn bod Chris wedi derbyn y cyfle i weithio gyda’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr Cymru ac arwain ein tîm dan 19.
“Mae’n rhywun y gwnaethom ei adnabod trwy ein rhaglen hyfforddi gyfunol UEFA A a B pedair blynedd yn ôl, a sefydlwyd gyda’r bwriad o ddod o hyd i hyfforddwr rhyngwladol y dyfodol.
“Mae Chris yn amlwg yn dod â chyfoeth o brofiad i’r rôl gan ei fod wedi gwneud mwy na 100 o ymddangosiadau rhyngwladol i’r tîm hŷn ac ymddangos mewn tri thwrnamaint mawr.
“Rydym wedi ymrwymo i gadw’r chwaraewyr a oedd yn rhan allweddol o’n llwyddiant yn Ewro 2016 yn ein llwybr a gall amlwg gweld ymrwymiad Chris i ddatblygu chwaraewyr rhyngwladol y dyfodol.”