Craig Bellamy yn cyhoeddi ei dîm hyfforddi

Gyda pythefnos i fynd tan gêm agoriadol Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA 2024/25 yn erbyn Twrci ar ddydd Gwener 6 Medi yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi ei dîm hyfforddi wrth iddo baratoi i reoli ei wlad am y tro cyntaf.

Wrth siarad am y penodiadau, dywedodd Bellamy “Rwy’n hapus iawn gyda’r grŵp o staff yr ydym wedi llwyddo i ymuno efo ni. Rwyf wedi gweithio gyda phob un ohonynt o’r blaen, naill ai fel hyfforddwr neu fel chwaraewr. Fel grŵp, rwy’n credu bod y cydbwysedd a’r arbenigeddau amrywiol rhyngom ni yw’r gorau y gallem fod wedi gofyn amdano. Mae’r gwaith paratoi ar gyfer y gemau wedi bod yn wych hyd yn hyn ac rwy’n methu aros i ni gyfarfod â’r chwaraewyr a dechrau gweithio gyda nhw.”

Canmolodd Prif Swyddog Pêl-droed Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Dr. David Adams, y penodiadau a wnaeth Bellamy. “Wrth edrych ymlaen at ddechrau ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA, mae’n wych i fod wedi gweithio gyda Craig i benodi tîm hyfforddi cryf a phrofiadol a fydd yn ategu sgiliau Craig. Mae pob aelod o’r staff wedi derbyn ei addysg trwy system Addysg Hyfforddwyr CBDC, sydd yn glod i’r hyn rydym wedi’i ddatblygu yma yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at groesawu’r staff i’n Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru.”

Andrew Crofts – Hyfforddwr Cynorthwyol

Cafodd Crofts ei gapio 29 o weithiau dros Gymru dan John Toshack, Gary Speed a Chris Coleman ac fe gwblhaodd ei trwyddedau hyfforddi UEFA trwy system Addysg Hyfforddi CBDC. Ymddeolodd Crofts o chwarae yn 2019, pan gafodd ei benodi fel hyfforddwr yn academi Brighton & Hove Albion cyn camu i fyny fel Brif Hyfforddwr y tîm dan 23 yn 2021. Yn 2022, penodwyd Crofts yn Hyfforddwr Tîm Cyntaf dan Roberto De Zerbi gyda Brighton yn sicrhau pêl-droed Ewropeaidd am y tro cyntaf yn hanes y clwb, gan gyrraedd y rownd 16 yng Nghynghrair Europa UEFA y tymor diwethaf, ac fe’i penodwyd yn ddiweddar fel Brif Hyfforddwr Cynorthwyol y clwb.

“Rwy’n falch iawn. Unwaith roeddwn i’n gwybod bod cyfle i fod yn nhîm hyfforddi Craig, fe wnaeth fy nenu yn syth. Roedd cynrychioli Cymru fel chwaraewr yn anhygoel i mi a fy nheulu, ac nawr mae cynrychioli fy ngwlad fel hyfforddwr cynorthwyol yn deimlad anesboniadwy. Rwy’n person sydd wedi’i ymrwymo â hyfforddi, astudio themau yn y gêm a dod â methodoleg tîm yn fyw, rhywbeth rwyf yn methu aros i’w wneud gyda’r grŵp hyn o chwaraewyr a staff.”

James Rowberry – Hyfforddwr Cynorthwyol

Dechreuodd Rowberry hyfforddi yn 21 oed a daeth yn un o’r bobl ieuengaf i gwblhau ei Drwydded Pro UEFA yn 29 oed. Bu Rowberry yn gweithio yng Nghaerdydd am wyth mlynedd, yn wreiddiol yn yr academi cyn dod yn Hyfforddwr Tîm Cyntaf dan sawl rheolwr gan gynnwys Neil Warnock. Yn dilyn cyfnod fel Prif Hyfforddwr ei dref enedigol, Casnewydd, penodwyd Rowberry yn Bennaeth Addysg Hyfforddwyr Elît CBDC ym mis Chwefror 2023, gan gyfuno’r swydd gyda hyfforddi timau dan oedran Cymru.

“Mae bod yn rhan o’n Tîm Cenedlaethol yn rhywbeth rwyf wedi bod eisiau ei wneud erioed ac i gynrychioli fy ngwlad. Rwyf wedi gwybod Craig ers amser hir, ac rydym yn rhannu syniadau debyg am bêl-droed. Bydd bod yn cysylltiad i’r timau dan oedran yn rhan allweddol o fy swydd ac fe fydd fy ngwaith blaenorol yn y maes hwnnw yn caniatau i mi fod yn cysylltiad naturiol wrth i ni edrych i arddangos ein talent ifanc ar lwyfan y byd.”

Piet Cremers – Hyfforddwr Cynorthwyol

Ganwyd Cremers yn yr Iseldiroedd a dechreuodd ei yrfa hyfforddi yn Excelsior Rotterdam cyn symud i Loegr, lle gweithiodd gyda Brentford a Manchester City. Fel Pennaeth Dadansoddi yn Manchester City, gweithiodd Cremers yn agos gyda Pep Guardiola am bedair blynedd. Ei rôl fwyaf diweddar oedd gweithio ochr yn ochr â Craig Bellamy fel Hyfforddwr Cynorthwyol i Vincent Kompany yn Burnley, lle gwnaethant sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl tymor hanesyddol i’r clwb.

“Rwy’n gyffrous iawn i ymuno â tîm Cymru ac i weithio gyda Craig unwaith eto.” meddai Cremers. “Ar ôl dod trwy system Addysg Hyfforddwyr CBDC a gweithio gyda Manchester City a Burnley dros y blynyddoedd diwethaf, mae hwn yn gyfle gwych i weithio gyda’r grŵp cyffrous hwn o chwaraewyr a staff a dod a fy mhrofiad i bêl-droed rhyngwladol.”

Ryland Morgans – Hyfforddwr Cynorthwyol

Mae gyrfa Morgans wedi ei weld yn gweithio gyda sawl clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr, gan gynnwys Lerpwl, Crystal Palace, Everton, Abertawe a Fulham gan weithio mewn dros 700 o gemau. Ar lefel ryngwladol, mae Morgans wedi gweithio dros 100 o gemau lle bu’n gweithio gyda CBDC am wyth mlynedd fel Pennaeth Perfformiad i’r tîm Cymru a gyrhaeddodd rownd gynderfynol UEFA EURO 2016. Ers 2018, mae Morgans wedi gweithio gyda thîm cenedlaethol Ivory Coast fel rheolwr cynorthwyol ac mae wedi gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Tsieina a CSKA Moscow fel is-hyfforddwr y tîm cyntaf. Mae Morgans hefyd yn Athro mewn gwyddoniaeth pêl-droed ac wedi cyhoeddi dros 115 o bapurau academaidd.

“Mae’n wych i weithio efo CBDC eto. Roedd taith UEFA EURO 2016 yn uchafbwynt gyrfa ac mae gweithio gyda rhai o’r chwaraewyr hynny, yn ogystal â’r wynebau newydd, yn her rwy’n edrych ymlaen ati’n fawr. Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn brysur yn gweithio gyda Craig wrth i ni baratoi ar gyfer ein gemau cyntaf, ac ni allaf aros i’r gwaith ddechrau ar y cae.”

Bydd cyhoeddiadau pellach i’r staff hyfforddi yn cael eu gwneud maes o law.

Yn dilyn y penodiadau, bydd nifer o aelodau staff o Dîm Cenedlaethol Dynion Cymru yn symud ymlaen. Hoffai CBDC nodi ei diolch i Alan Knill, Jack Lester, Tony Roberts a Nick Davies am eu gwaith a’u hymroddiad dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd Chris Gunter hefyd yn symud ymlaen i rôl newydd o fewn CBDC a fydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm gyntaf Bellamy wrth y llyw Cymru yn erbyn Türkiye yn Stadiwm Dinas Caerdydd (7:45pm Stadiwm Dinas Caerdydd) ar gael i’w prynu ar wefan docynnau FAW.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.