Wrth i Gymru baratoi ar gyfer eu gemau ail-gyfle UEFA EURO Merched yn erbyn Slofacia, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn lansio ymgyrch o’r enw “Breichledau: Amdani Hi,” gan annog cefnogwyr i ddangos eu cefnogaeth drwy greu a chyfnewid breichledau cyfeillgarwch.
Wedi’i ysbrydoli gan dueddiadau byd-eang, a wnaed yn boblogaidd gan Taylor Swift, sy’n pwysleisio cysylltiad ac undod cefnogwyr, nod yr ymgyrch “Breichledau: Amdani Hi” yw i feithrin cysylltiad dyfnach rhwng cefnogwyr a thîm Cymru.
Mae cefnogwyr yn cael eu gwahodd i greu a chyfnewid breichledau cyfeillgarwch cyn ac ar ôl y gêm.
Bydd cefnogwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y fenter arbennig yma drwy ddod â’u breichledau neu drwy eu creu mewn stondin creu breichledau wedi’i leoli y tu mewn i Stadiwm Dinas Caerdydd.
Capten Cymru Angharad James: “Mae’r fenter ‘Breichledau: Amdani Hi’ yn cynrychioli’r undod sy’n annatod ar draws y gêm. Rydym am ysbrydoli cenhedlaeth o chwaraewyr pêl-droed yn y dyfodol a dathlu cefnogaeth y cefnogwyr sy’n sefyll y tu ôl i ni. Mae’n ffordd arbennig o ddod â phawb at ei gilydd yn y foment hollbwysig hon.”
Gyda’r cyfle i greu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol UEFA EURO Merched am y tro cyntaf, mae Cymru’n gobeithio bydd torf gryf y neu gefnogi, yn y stadiwm ac ar draws y wlad, wedi’u huno gan y symbolau hyn o gyfeillgarwch ac undod.
Cymerwch Ran – Sut Allwch Chi Gymryd Rhan:
- Gwnewch Freichledau Cyfeillgarwch Eich Hun: Anogir cefnogwyr i greu eu breichledau eu hunain cyn y gêm ail-gyfle.
- Ymunwch â’r Hwyl yn y Stadiwm: Bydd stondin creu breichledau ar gael yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn y gêm i gefnogwyr fod yn greadigol a chreu breichledau eu hunain.
- Rhannwch eich creadigaethau ar y cyfryngau cymdeithasol: Dangoswch eich breichledau drwy dagio @Cymru a defnyddio’r hashnod #AmdaniHi ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd CBDC yn rhannu rhai o’n hoff ddyluniadau ar ein sianeli swyddogol!
Sicrhewch Eich Tocynnau:
Wrth i Gymru ceisio sicrhau lle yn rowndiau terfynol UEFA EURO Merched am y tro cyntaf yn hanes, mae CBDC yn gwahodd pob cefnogwr i ymuno â’r profiad bythgofiadwy yma. Gadewch i ni lenwi’r stadiwm â balchder, cefnogaeth, ac undod i sefyll ‘Amdanom Ni. Amdanyn Nhw. Amdani Hi’.
Mae tocynnau ar gyfer Cymru v Slofacia ar gael nawr: fawales.co/46hCxkv