Cyhoeddi Craig Bellamy fel Rheolwr Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn hynod falch o gyhoeddi Craig Bellamy fel Rheolwr Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru tan 2028. 

Mae Bellamy, sy’n dal Trwydded Pro UEFA trwy system Addysg Hyfforddi FAW, wedi bod yn hyfforddwr ers ymddeol o chwarae yn 2014, ac yn ddiweddar bu’n Hyfforddwr Cynorthwyol yn Burnley yn Uwch Gynghrair Lloegr. Cyn ymuno â Burnley, roedd Bellamy yn Rheolwr Tîm Dan 21 ac yn Hyfforddwr Cynorthwyol Tîm Hŷn Anderlecht, yn ogystal a gweithio yn academi CPD Dinas Caerdydd.

Fel chwaraewr, chwaraeodd Bellamy mewn mwy na 400 o gemau yn a chynrychiolodd Gymru 78 o weithiau, gan gapteinio’r tîm rhwng 2007-2010.

Ar ei benodiad, dywedodd Bellamy: “Mae’n anrhydedd anhygoel i mi gael y cyfle i arwain fy ngwlad ac yr anrhydedd mwyaf yn fy mywyd. Unwaith ddaeth y cyfle hyn ar gael roeddwn yn cyffrous ac yn barod am yr her i ddatblygu’r tîm hyn i ddod â llwyddiant parhaus i bêl-droed Cymru. Rwy’n methu aros i ddechrau gyda’n gemau Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.”

Dywedodd Prif Swyddog Pêl-droed y FAW, Dr David Adams: “Roedd y broses recriwtio yn un drylwyr ar gyfer penodi Prif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Dynion newydd ac rwy’n hynod falch o gyhoeddi Craig fel ein prif hyfforddwr newydd. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at gemau Cynghrair y Cenhedloedd ac i weithio gyda Craig i sicrhau llwyddiant i Bêl-droed Cymru.”

Bydd gêm gyntaf Bellamy yn ei swydd newydd ar ddydd Gwener 6 Medi yn erbyn Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.