Cyn i Gymru cymryd rhan ym mhencampwriaeth UEFA EURO 2025 yn y Swistir dros yr haf, bydd tîm Rhian Wilkinson yn teithio o gwmpas Cymru ar gyfer tair gêm yn hanner cyntaf y flwyddyn fel rhan o ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA.
Ar ôl sicrhau dyrchafiad i Gynghrair A fel rhan o’r ymgyrch ragbrofol EURO, bydd tîm Rhian Wilkinson yn cystadlu yn erbyn goreuon Ewrop ar gyfer ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd Merched UEFA 2025, gan wynebu’r Eidal, Sweden a Denmarc.
Bydd y gêm gartref gyntaf o’r ymgyrch yn gweld Cymru yn herio Sweden yn y STōK Cae Ras yn Wrecsam ar ddydd Mawrth 25 Chwefror (KO 7:15pm. Fe wnaeth Cymru chwarae yna diwethaf ym mis Ebrill y llynedd ar gyfer gêm gyntaf Rhian Wilkinson wrth y llyw, gyda buddugoliaeth 4-0 yn erbyn Croatia.
Bydd Stadiwm Dinas Caerdydd, lle wnaeth Cymru torri’r record dorf gyda 16,845 o gefnogwyr yn gêm ail-gyfle rownd derfynol EURO yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon fis Tachwedd diwethaf, yn cynnal y gêm yn erbyn Denmarc ddydd Gwener 4 Ebrill (Cic gyntaf 7:15pm).
Bydd yr ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd yn dod i ben yn y Stadiwm Swansea.com, fis cyn cychwyn y bencampwriaeth UEFA EURO yn y Swistir, lle bydd Cymru’n wynebu’r Eidal ar ddydd Mawrth 3 Mehefin (KO i’w gadarnhau). Y tro diwethaf wnaeth Cymru chwarae yn Abertawe yn Rhagfyr 2023, fe wnaeth dorf record am gêm y tu allan i Gaerdydd troi fyny ar gyfer gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn un o oreuon Ewrop, yr Almaen.
Tra’n siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Rhian Wilkinson: “Wrth i ni baratoi ar gyfer ein hymddangosiad cyntaf mewn pencampwriaeth ryngwladol, ni’n credu ei bod yn bwysig i ni roi’r cyfle i’n cefnogwyr ledled y wlad i gefnogi a dathlu’r tîm wrth i ni baratoi am yr EUROs. Bydd chwarae yn Wrecsam, Abertawe a Caerdydd yn rhoi’r cyfle perffaith i ni wneud hynny wrth i ni edrych ymlaen at wynebu gwrthwynebwyr anodd ond cyffrous fel rhan o ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd. Ni’n hynod o gyffrous i weld y Wal Goch yn troi fyny yn eu niferoedd ar gyfer y gemau mawr hyn.”
Mae’r lleoliadau am y gemau i ffwrdd o adref hefyd wedi’i gadarnhau, gyda’r gwybodaeth ar gael isod.
Bydd gwybodaeth docynnau ar gyfer y gemau yn cael i gyhoeddi maes o law.
Yr Eidal v Cymru – Stadiwm Brianteo, Monza – TBC Dydd Gwener 21 Chwefror
Cymru v Sweden – Stōk Cae Ras, Wrecsam – 7:15pm Dydd Mawrth 25 Chwefror
Cymru v Denmark – Stadiwm Dinas Caerdydd – 7:15pm Dydd Gwener 4 Ebrill
Sweden v Cymru – Stadiwm Gamla Ullevi, Gothenburg – TBC Dydd Mawrth 8 Ebrill
Denmark v Cymru – Odense Stadium, Odense – TBC Dydd Gwener 30 Mai
Cymru v Italy – Stadiwm Swansea.com – TBC Dydd Mawrth 3 Mehefin