Mae Gymdeithas Bêl-droed Cymru wedi terfynu cytundeb Rob Page fel Rheolwr Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru.
Fe benodwyd Page fel Rheolwr Cymru ar sail dros dro ym mis Tachwedd 2020, ac fe roddwyd y rôl iddo ar sail barhaol ym mis Medi 2022. Yn ystod ei amser wrth y llyw, fe wnaeth Page rheoli’r tîm ym mhencampwriaeth UEFA EURO 2020 ac arweiniodd Cymru i Gwpan y Byd FIFA 2022, y tro gyntaf i’r tîm cyrraedd y gystadleuaeth ers 1958.
Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, sicrhaodd Cymru ddyrchafiad i Gynghrair A yng nghystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd UEFA. Cyn cymryd y swydd fel Rheolwr y Tîm Cenedlaethol, roedd Page yn Brif Hyfforddwr y tîm D21 ers 2017 ac fe weithiodd ar ddatblygiad sawl chwaraewr i’r tîm cyntaf, gan gynnwys Dan James, Harry Wilson a Joe Rodon ymhlith nifer fwy.
Dywedodd Dave Adams, Prif Swyddog Pêl-droed CBDC “Hoffwn ddiolch i Rob am ei waith gyda’r Gymdeithas dros y saith mlynedd diwethaf, yn gyntaf fel Prif Hyfforddwr y tîm D21 ac yna fel Rheolwr Cymru.”
“Mae gwaith Rob wedi arwain at lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y rownd 16 olaf yn EURO 2020 a chymryd y tîm i bencampwriaeth Cwpan y Byd FIFA 2022. Yn ystod ei gyfnod fel Rheolwr, fe wnaeth 18 chwaraewr cynrychioli Cymru am y tro gyntaf. Wrth edrych tuag at y dyfodol, bydd y profiadau hyn yn cefnogi ein nod i sicrhau bod Tîm Cenedlaethol y Dynion yn cyrraedd pencampwriaethau EURO a Chwpan y Byd yn gyson.”
Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr CBDC, “Ar ran fy hun a’r holl Gymdeithas, hoffwn estyn ein diolch i Rob Page am ei ymrwymiad a’i ymroddiad i’w swyddi efo’r Timoedd Cenedlaethol. O dan arweinyddiaeth Rob Page, mae ein tîm dynion Cymru wedi dathlu buddugoliaethau arwyddocaol sydd wedi creu nifer o atgofion anhygoel i’n cenedl, yn fwyaf nodedig ein Cwpan y Byd cyntaf mewn chwe deg pedair o flynyddoedd.”
“Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ein ‘Rhagoriaeth’, un o werthoedd CBDC, ac yn edrych ymlaen at y cyfleoedd ar gyfer ein timoedd cenedlaethol a Phêl-droed Cymru.”
Dywedodd Llywydd CBDC, Steve Williams “Rwy’n ddiolchgar dros ben am bopeth y mae Rob wedi’i wneud yn ei rôl fel Rheolwr Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru, ac rwyf am gofnodi fy niolchgarwch am fynd â Chymru i bencampwriaethau EURO 2020 a Chwpan y Byd FIFA 2022.”
“Roedd angerdd Rob dros Gymru yn amlwg dros y wlad trwy ei ymweliadau ag ysgolion, clybiau a chymunedau ledled Cymru. Rwy’n gwybod bod Rob yn falch iawn o fynd â’r cyhoeddiad o garfan Cwpan y Byd i’w dref enedigol, Pendyrys.”