
Mae Dydd Miwsig Cymru yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg, o indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica i hip hop a phopeth arall dan haul.
Dyma’r degfed Dydd Miwsig Cymru, felly beth am ymuno â’r dathliadau?
Dathlwch gerddoriaeth anhygoel Cymru drwy wrando ar restr chwarae Dydd Miwsig Cymru a grëwyd yn arbennig gan Lywodraeth Cymru yma. Neu ffeindiwch gig Dydd Miwsig Cymru yn agos atoch chi yma.
Mae CBDC yn cydnabod pwysigrwydd cerddoriaeth ac artistiaid Cymreig wrth lunio ac anrhydeddu hunaniaeth ddiwylliannol Cymru. Mae cerddoriaeth yn parhau i fod yn ganolog i brofiad pêl-droed Cymru sy’n cael ei amlygu ar draws y nifer o benodau a rhaglenni dogfen sy’n dathlu artistiaid cerddoriaeth Gymraeg sydd ar gael i’w gwylio ar RedWall+.
Dydd Miwsig Cymru hapus!