Yn 2021, lansiodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ei Strategaeth Ferched a Genethod gyntaf erioed, “Ein Cymru: Amdani Hi”, cynllun beiddgar chwe blynedd i drawsnewid tirlun pêl-droed menywod ledled Cymru.
Mae’r strategaeth wedi’i chynllunio i ysbrydoli Merched a Genethod i fod y gorau y gallant fod, gan annog mwy i chwarae, gwirfoddoli, a dilyn y gêm, wedi’i hamlinellu yn y weledigaeth a’r genhadaeth strategol ganlynol:
Ein Gweledigaeth
Ysbrydoli hyder i Ferched a Genethod i ddod eu hunain gorau.
Ein Cenhadaeth
Creu’r amgylchedd gorau posibl, strwythurau cymorth, a chyfleoedd a fydd yn cyflymu twf pêl-droed menywod yng Nghymru, gan ei helpu i gyflawni ei botensial llawn.
Targedau Strategol
O fewn y strategaeth, gosododd CPDC bum targed uchelgeisiol:
- Dyblu cyfranogiad – Cynyddu nifer y cyfranogwyr cofrestredig i 20,000.
- Dyblu’r nifer o Gefnogwyr – Cynyddu’r dorf mewn gemau Cenedlaethol a Domestig.
- Dyblu’r Buddsoddiad – Sicrhau mwy o gefnogaeth ariannol i’r gêm.
- Cymru Ar Ben y Byd – Cyrraedd twrnamaint rhyngwladol mawr cyntaf.
- Cynrychiolaeth – Sicrhau 40% Cydraddoldeb Rhyw ar Fwrdd CBDC.
Yn dilyn tymor 2023/24, mae CBDC yn falch o rannu diweddariadau cynnydd ar draws yr holl dargedau allweddol hyn:
- Dyblu cyfranogiad: Ers lansio’r strategaeth, mae cyfranogiad wedi cynyddu 45%, gyda 15,898 o Ferched a Genethod yn cymryd rhan mewn pêl-droed yn ystod tymor 2023/24.
- Dyblu’r nifer o Gefnogwyr: Ers 2021, mae’r nifer o gefnogwyr sy’n mynychu gemau Domestig Adran Leagues a gemau Tîm Cenedlaethol Cymru wedi cynyddu’n sylweddol. Mae gemau’r tîm cenedlaethol wedi gweld cynnydd o 198% yn nifer y cefnogwyr, gan gynyddu o gyfartaledd o 1,800 i 5,370 o wylwyr, gan dorri’r targed cychwynnol.
- Dyblu’r Buddsoddiad: Diolch i’r gefnogaeth anhygoel gan randdeiliaid a phartneriaid, mae buddsoddiad mewn pêl-droed Ferched a Genethod yng Nghymru wedi cynyddu 254% ers 2021.
- Cymru Ar Ben y Byd: Ers lansio’r strategaeth, mae Tîm Cenedlaethol Cymru wedi cyrraedd gemau ail-gyfle Cwpan y Byd Menywod FIFA 2023, ac yn anelu at gyrraedd Pencampwriaeth Ewropeaidd Menywod UEFA 2025 gyda gemau ail-gyfle allweddol wedi’u hamserlennu ar gyfer Hydref 2024.
- Cynrychiolaeth: Mae CBDC wedi gweithio’n galed i wella amrywiaeth rhyw yn ei lywodraethant, gan sicrhau cynnydd o 18% yn gydraddoldeb rhyw ar Fwrdd CBDC.
Dywedodd Rheolwr Uwch Pêl-droed Llawr Gwlad Ferched a Genethod y CBDC: “Mae twf sylweddol wedi bod ar draws pob maes pêl-droed Ferched a Genethod yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r gefnogaeth gan randdeiliaid allweddol wedi bod yn hanfodol wrth godi’r gêm i uchelfannau newydd. Rydyn ni’n gyffrous i barhau â’r daith hon, gan sicrhau bod pob menyw a merch yng Nghymru yn cael cyfle i ffynnu mewn pêl-droed.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol CBDC, Noel Mooney, “Rydyn ni’n hynod falch o dwf cyflym y gêm Ferched a Genethod ar draws Gymru. Mae strategaeth Ein Cymru: Amdani Hi yn uchelgeisiol, ac mae’r cynnydd hyd yn hyn yn aruthrol. Mae CPDC wedi ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiant hwn ac i gyrraedd uchderau hyd yn oed yn fwy.”