Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi lansio ‘Siarad Cymru’, ymgyrch fideo newydd wedi’i chynllunio i annog sgyrsiau am gefnogi amgylchedd cynhwysol wrth ddilyn timau cenedlaethol Cymru.
Bydd y gyfres fideo, a fydd yn cynnwys trafodaethau a fydd yn cael ei arwain gan gyn-chwaraewyr Cymru, yn amlygu’r elfennau positif a’r heriau sy’n gysylltiedig â chefnogi pêl-droed, yn ogystal â phwysigrwydd sicrhau bod “Y Wal Goch” Cymru yn parhau i fod yn groesawgar i bawb.
Mae pennod gyntaf Siarad Cymru, sydd ar gael i wylio nawr ar RedWall+ a sianeli digidol CBDC, yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod gemau Cymru yn lle diogel i fenywod. Mae’r cyn-chwaraewr rhyngwladol Joe Ledley yn ymuno â chefnogwyr Cymru, Mared a Hayley, i drafod profiadau cefnogwyr benywaidd, rôl cynghreiriaid gwrywaidd, tra bod Joe Ledley yn rhannu ei safbwynt fel chwaraewr a thad, gan fyfyrio ar sut y gall cefnogwyr gefnogi ei gilydd i greu amgylchedd mwy diogel.
Bydd penodau o Siarad Cymru yn y dyfodol yn archwilio pynciau sy’n effeithio ar gefnogaeth bêl-droed ac ar gymdeithas ehangach, gan gynnwys hiliaeth, iechyd meddwl a chynhwysiant LGBTQ+. Trwy roi llwyfan i gefnogwyr a chyn-chwaraewyr, mae’r ymgyrch yn ceisio meithrin deialog agored ag onest am ddiwylliant cefnogi Cymru a’r cyfleoedd i’w wneud yn fwy cynhwysol.

Dywedodd Joe Ledley, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru a Llysgennad CBDC: “Rwyf wedi cael rhai o’r profiadau gorau yn fy mywyd gyda’n Wal Goch, ac mae angerdd cefnogwyr Cymru heb ei hail. Ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod yna rwystrau o hyd sy’n gwneud i bêl-droed deimlo’n llai croesawgar i rai. Mae’n bwysig i bob cefnogwr ddod at ei gilydd, gofalu am ei gilydd a sicrhau bod pob cefnogwr yn teimlo’n ddiogel, wedi’i gynnwys ac yn falch o fod yn rhan o’r gymuned anhygoel hon.”
Dywedodd Natalie Chamberlin, Uwch Reolwr Diogelu a Lles Chwaraewyr CBDC: “Mae creu lle diogel i fenywod mewn pêl-droed, o fewn a thu allan o’r stondinau, yn gyfrifoldeb a rennir. Mae Siarad Cymru yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth, annog sgyrsiau agored a sicrhau bod pêl-droed yn parhau i fod yn groesawgar i bawb. Rydym eisiau grymuso cefnogwyr i herio ymddygiad amhriodol yn ddiogel ac i feithrin diwylliant cadarnhaol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cynnwys. Mae hefyd yn hollbwysig bod cefnogwyr yn teimlo’n hyderus i adrodd unrhyw ddigwyddiadau o wahaniaethu yng ngemau Cymru.”
Ychwanegodd Macsen Jones, Swyddog Ymgysylltu â Chefnogwyr: “Mae ein Wal Goch yn enwog am ei chefnogaeth anhygoel, yn enwedig ers taith Cymru ym Mhencampwriaeth UEFA EURO 2016. Ond fel corff llywodraethu, rhaid i ni barhau i ddysgu o brofiadau byw ein cefnogwyr i sicrhau bod pêl-droed yn lle i bawb. Trwy Siarad Cymru, rydym yn annog sgyrsiau agored a chynghreiriaeth i adeiladu diwylliant diwrnod gêm fwy cynhwysol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth wella ein systemau adrodd, sy’n ein helpu i nodi a mynd i’r afael â digwyddiadau o wahaniaethu yn well. Trwy rannu’r straeon hyn, gallwn barhau i wneud newidiadau cadarnhaol a sicrhau bod pob cefnogwr Cymru yn teimlo’n ddiogel ac wedi’i gefnogi.”
Mae cefnogwyr Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gemau’n parhau i fod yn ddiogel, yn gynhwysol ac yn groesawgar i bawb. Os ydych chi’n dyst i neu’n profi gwahaniaethu, camdriniaeth neu ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn gêm Cymru, rhowch wybod amdano cyn gynted â phosibl. Y cam cyntaf yw siarad â’r stiward agosaf, a fydd yn dilyn gweithdrefnau adrodd y stadiwm. Yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gall cefnogwyr hefyd sganio’r codau QR sy’n cael eu harddangos ar draws y stadiwm neu ar gefn seddi i gyflwyno adroddiad ar unwaith.
I’r rhai sydd efallai ddim yn teimlo’n gyfforddus yn adrodd ar y pryd, neu sy’n sylweddoli ar ôl y gêm y dylent fod wedi adrodd rhywbeth, gellir hefyd adrodd digwyddiadau trwy e-bostio ReportIT@faw.cymru neu drwy ffurflen adrodd ar-lein CBDC yn faw.cymru/reportit. Mae pob adroddiad yn helpu CBDC i weithredu i sicrhau bod gemau Cymru yn parhau i fod yn le lle mae pawb yn perthyn.