Our Tîm. Our Time. C'mon Cymru

Galwad am fanylion cyswllt cyn-chwaraewyr Cymru

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) yn cydnabod ac yn dathlu chwaraewyr Cymru a gynrychiolodd y timau menywod yn y 1970au a’r 1980au, cyn i’r Tîm Cenedlaethol ddod o dan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Bydd y Gymdeithas yn cydnabod y chwaraewyr hyn gyda chapiau swyddogol Cymru.

Bydd cyflwyniad y capiau yn digwydd mewn digwyddiad arbennig yn Amgueddfa Sain Ffagan ar nos Wener 4 Hydref.

Mae gan y Gymdeithas Bêl-droed gofnodion o 27 o gemau a gynhaliwyd rhwng 1973 a 1993, pan ffurfiwyd y tîm gyda CBDC a chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn Gwlad yr Iâ yn Afan Lido. Ers hynny, wedi chwarae dros 200 o gemau, mae’r tîm cenedlaethol wedi tyfu o nerth i nerth a byddant yn chwarae yn eu gêm ail-gyfle gyntaf UEFA EURO ym mis Hydref. Roedd y taith hon wedi’i gosod gan y rhai a cynrychiolodd Cymru yn y 1970au a’r 80au.

Dros y blwyddyn ac hanner diwethaf, mae CBDC wedi bod yn gweithio i gysylltu â chyn-chwaraewyr a fu’n rhan o’r timau yn y cyfnod hwnnw er mwyn anrhydeddu a dathlu eu cynrychioliad. Fel rhan o hyn, cafodd y cyn chwaraewyr eu gwahodd i ddathliad cyn-gêm pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Gwlad yr Iâ yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Rhagfyr diwethaf.

Gyda chymorth y cyn-chwaraewr Michele Adams MBE a’r hanesydd John Carrier ymysg eraill, mae 94 o chwaraewyr wedi’u hadnabod o’r cyfnod hwnnw, ac mae gan CBDC manylion cyswllt ar gyfer y mywafriaf o’r chwaraewyr hyn. Nawr mae CBDC yn lansio galwad gyhoeddus er mwyn helpu i ddod o hyd i’r manylion cyswllt ar gyfer gweddill y cyn-chwaraewyr neu eu teuluoedd i helpu dathlu eu llwyddiannau.

Os oes gennych fanylion cyswllt ar gyfer chwaraewr neu aelod o deulu’r rhai a restrir isod, cysylltwch â press@faw.cymru. Ar gyfer y rhai na all fynychu’r noson gyflwyno ar nos Wener 4 Hydref, bydd y Gymdeithas yn ddarparu’r capiau trwy’r post.

Rhestr chwaraewyr heb fanylion:

Pat Griffiths, Sandra Hunt, Linda James, Gaynor Jones, Ann Rice, Julie Yale, Gillian Rowlands, June Houldey, Janet Lewis, Barbara Jones, Christine Ross, Karen Atkins, Liz Harrington, Jean McCarthy, Wendy Wood, Jacqueline Butt, Nikki Groves, Suzy Faul, Jill Anson, Chris Coyle, Gill Bellis, Paula Cleeve, Val Williams, G Day, Delyth Wyn Jones, Jackie Weir (nee Jones), Annette Jones, T Heaton.

Cysylltwch efo ni

Gwybodaeth cyswllt chwaraewyr

Cymru 1973-1992

Prynwch eich tocyn

Cymru v Slovakia

Dydd Mawrth 29 Hydref, Stadiwm Dinas Caerdydd

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.