Live reporting: Cymru v Kazakhstan

Gemau cyfeillgar Cymru wedi’i gadarnhau am 2025

Bydd tîm Cymru Craig Bellamy yn wynebu Canada yn Stadiwm Swansea.com a Lloegr yn Stadiwm Wembley, sydd yn cwblhau eu calendr rhyngwladol ar gyfer 2025.

Y gêm yn erbyn Canada ar nos Fawrth 9 Medi (KO 7:45pm) fydd y tro gyntaf i Gymru chwarae yn Abertawe ers mis Tachwedd 2020, lle wnaeth gêm heb dorf yn erbyn yr UDA gorffen yn ddi-sgôr yn ystod pandemig COVID-19. Y tro diwethaf i’r tîm chwarae o flaen torf yn y Stadiwm Swansea.com oedd ym mis Mawrth 2013 yn erbyn Croatia, gêm a oedd yn cynnwys y Prif Hyfforddwr presennol Craig Bellamy.

Y tro diwethaf wnaeth Cymru chwarae Canada oedd fuddugoliaeth 1-0 yn Wrecsam ym mis Mai 2004, â’r gêm ym mis Medi bydd y bedwaredd tro i’r timau wynebu ei gilydd.

Bydd Lloegr yn wrthwynebwyr cyfarwydd i Gymru, ar ôl iddynt eu hwynebu’n ddiweddar ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd FIFA 2022, gêm gyfeillgar yn ystod pandemig COVID-19, ac ym mhencampwriaeth UEFA EURO 2016. Y tro diwethaf i Gymru chwarae o flaen torf yn Stadiwm Wembley oedd dan arweiniad Gary Speed ym mis Medi 2011, gyda cholled 1-0 mewn gêm rownd ragbrofol UEFA EURO 2012. Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar nos Iau 9 Hydref (KO 7:45pm).

Bydd y gemau hyn yn cwblhau calendr y Tîm Cenedlaethol Dynion ar gyfer 2025, lle bydd Cymru yn cystadlu yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026. Bydd yr ymgyrch yn dechrau ar ddydd Sadwrn 22 Mawrth yn erbyn Kazakhstan yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda thocynnau ar werth nawr i’r cyhoedd.

Bydd gwybodaeth am docynnau ar gyfer y gemau yn erbyn Canada a Lloegr yn cael ei rhyddhau maes o law.

Prynwch eich tocynnau

Cymru v Kazakhstan

7:45pm Stadiwm Dinas Caerdydd
Dydd Sadwrn 22 Mawrth

Archebwch yma

Aelodaeth Wal Goch

Byddwch y gyntaf i sicrhau eich tocynnau am gemau Cymru

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.