Mae Matty Jones wedi arwyddo estyniad cytundeb o ddwy flynedd i barhau fel prif hyfforddwr Cymru D21 tan 2028.
Mae Jones, a gafodd ei benodi ym mis Medi 2022, wedi rheoli’r tîm trwy ymgyrch ragbrofol EWRO D21 UEFA 2025 ac wedi rhoi cyfle i Gymru sicrhau o leiaf le mewn gemau ail-gyfle wrth fynd i mewn i’w ddwy gêm olaf.
Mae Cymru’n ail yng Nghrŵp I ar ôl ennill tair buddugoliaeth a dwy gêm gyfartal, gyda’u hunig golled yn dod yn erbyn arweinwyr presennol y grŵp, Denmarc.
Yn ystod ei gyfnod fel prif hyfforddwr, mae Jones hefyd wedi rhoi cyfle i 31 o chwaraewyr wneud eu hymddangosiadau cyntaf i dîm D21 Gymru ers cymryd yr awenau yn ei gêm gyntaf yn erbyn Awstria ym mis Medi 2022.
Tra bod Joe Low, Charlie Savage, Fin Stevens, Charlie Crew, a Lewis Koumas i gyd wedi symud ymlaen o’r garfan dan 21 ac wedi mynd ymlaen i ennill eu capiau cyntaf i’r garfan hŷn o dan gyfnod Jones.
Ar ôl arwyddo estyniad o ddwy flynedd, dywedodd Jones: “Mae’n anrhydedd fel prif hyfforddwr dan 21 i gael cydnabyddiaeth gydag estyniad cytundeb, fodd bynnag mae wedi bod yn ymdrech ar y cyd gan yr holl staff sydd wedi darparu’r cyfle gorau i’n chwaraewyr berfformio a gweithredu drwy gydol yr ymgyrch.
“Mae llwyddiant y tîm wedi datblygu cysylltiad cryf gyda chwaraewyr sydd wedi dangos ymdrech fawr i ddysgu a gwella ei gilydd. Cafwyd adegau o ragoriaeth unigol yn ogystal â graean a phenderfyniad i’n cael ni i’r pwynt lle rydyn ni yn y grŵp ac mae angen i hynny barhau.
“Y rhan fwyaf cymhleth yw rheoli’r chwaraewyr drwy’r grwpiau oedran, gan ysbrydoli’r chwaraewyr i gyflawni eu nodau o symud i’r tîm cyntaf ond hefyd rheoli eu huchelgeisiau a’u hemosiynau i gael y gorau ohonynt ar bob lefel.
“Mae yna undod gwych rhwng y grwpiau oedran, cyfathrebu clir ymhlith y staff a’r chwaraewyr a does dim teimlad gwell i mi pan mae’r unigolion hynny wedi cael eu gwobrwyo gyda chyfleoedd, yn enwedig wrth wneud eu hymddangosiadau cyntaf yn y garfan hŷn.
“Mae ymrwymo i bêl-droed Cymru am ddwy flynedd arall yn gyffrous i mi ac i fy nheulu gan eu bod nhw hefyd wedi bod yn gyfraniad enfawr ac yn gymorth yn fy rôl ac rydw i’n caru nhw am hynny. Maen nhw wedi fy ngalluogi i fynd y tu hwnt i’r disgwyliadau mewn rhywbeth rwy’n angerddol amdano.”
Ychwanegodd Prif Swyddog Pêl-droed CBDC David Adams: “Rydyn ni’n falch iawn bod Matty wedi cytuno i arwyddo estyniad cytundeb i barhau â’i rôl fel prif hyfforddwr y tîm dan 21 tan 2028.
“Mae eisoes wedi sicrhau nifer o ganlyniadau bositif yn ei ymgyrch ragbrofol gyntaf wrth y llyw ac wedi rhoi’r tîm mewn sefyllfa dda wrth fynd i mewn i’r ddwy gêm olaf.
“Mae’r ffaith bod 31 o chwaraewyr wedi gwneud eu hymddangosiadau cyntaf i’r garfan dan 21 yn ystod ei amser fel prif hyfforddwr yn gadarnhaol iawn i ni fel gymdeithas.
“Mae hefyd wedi cynorthwyo pum chwaraewr wrth iddyn nhw gwneud y cam i fyny ac ennill capiau i’r tîm gyntaf dros y ddwy flynedd diwethaf sy’n dyst i waith caled Matty a’i staff.
“Bydd yr estyniad hwn yn ein galluogi i barhau i ddatblygu chwaraewyr i mewn i’n tîm gyntaf am flynyddoedd i ddod.”