
Bydd digwyddiad arbennig Gŵyl Cymru yn cael ei gynnal yn Neuadd Ogwen, Bethesda, ar nos Iau 19 Mehefin ar ôl i Rhian Wilkinson gyhoeddi tîm UEFA EWRO Menywod 2025 Cymru ar gopa’r Wyddfa.
Bydd Adwaith yn perfformio yn y digwyddiad a fydd yn dathlu ymddangosiad cyntaf Cymru mewn twrnamaint mawr yn y gêm menywod. Mae gan y band cysylltiad agos â thîm Cymru, gyda’r gân ‘Fel i Fod’ wedi cael ei defnyddio mewn ymgyrchoedd ers 2018.
Cyn perfformiad Adwaith, bydd Rhian Wilkinson yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb arbennig, a gyflwynir gan Nicky John. Fydd y sesiwn yn cael ei ffrydio’n fyw ar blatfformau CBDC.
Digwyddiad drwy wahoddiad yn unig fydd y sesiwn holi ac ateb, gyda disgyblion ysgolion lleol a chlybiau’n bresennol. Bydd y gig gydag Adwaith wedyn yn ddigwyddiad cyhoeddus, gyda’r drysau’n agor o 8pm.
Mae tocynnau ar gyfer y gig gydag Adwaith ar gael i’w prynu yma drwy wefan Neuadd Ogwen. Bydd mwy o ddigwyddiadau Gŵyl Cymru o amgylch yr EWROs yn cael eu cyhoeddi maes o law.