Plant Creadigol Cymru’n Cefnogi Cymru gyda 400+ o Gerddi

Mae cannoedd o blant wedi rhoi pensil ar bapur ac wedi ysgrifennu cerddi i ddangos eu cefnogaeth i dîm menywod Cymru, sydd wedi cyrraedd Gemau Ail-gyfle EWRO Menywod UEFA am y tro cyntaf. 

Nos Fawrth 29 Hydref, bydd Cymru yn wynebu Slofacia yn eu hail gêm gyn-derfynol yn y gemau ail gyfle.  Cyn y gemau, cydweithiodd Llenyddiaeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar alwad cyhoeddus oedd yn gwahodd plant Cymru i ddefnyddio grym barddoniaeth i ddathlu cyflawniad Cymru a dangos pa mor ysbrydoledig ydyn nhw. Daeth cannoedd o gerddi i law. O Fôn i Arberth, Merthyr i’r Wyddgrug, Y Rhyl i Aberhonddu, mae plant o 6 – 16 oed wedi dangos eu gwerthfawrogiad o’r tîm, sydd ar drothwy moment hanesyddol. 

Cafodd sgwad Cymru, yn cynnwys Rheolwr Cymru, Rhian Wilkinson a’r chwaraewyr Angharad James, Jess Fishlock, Hayley Ladd, Kayleigh Barton a llawer mwy, eu syfrdanu gan ymdrechion creadigol plant Cymru. 

Dywedodd Angharad James, Capten Cymru: “Rydyn ni wir wedi ein hysbrydoli gan y gefnogaeth rydyn ni’n ei chael gan ysgolion a phlant ledled Cymru, mae’n golygu’r byd i ni. Mae darllen y cerddi hyn sy’n llawn angerdd, balchder a chreadigrwydd wedi rhoi hwb ychwanegol i ni cyn y gêm dyngedfennol nos Fawrth.  

“Diolch yn fawr iawn i bob plentyn sydd wedi ysgrifennu cerdd i ni, mae gwybod eich bod chi y tu ôl i ni ar y daith hon yn anhygoel o bwerus. Byddwn yn mynd â’ch geiriau gyda ni ar y cae nos Fawrth ac yn gobeithio eich gweld yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Diolch o galon!”

Dywedodd Leusa Llewellyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Yma yn Llenyddiaeth Cymru rydym wedi’n argyhoeddi ers tro fod rhyw hud yn y berthynas rhwng barddoniaeth a chwaraeon, ac mae darllen y cerddi gwych yma gan blant o bob cwr o Gymru wedi profi unwaith eto fod hynny’n gwbl wir. Mae ymgyrch Cymru wedi cipio’n dychymyg, ac rydym i gyd yn falch o’u llwyddiannau ac yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod. Mae’r cerddi hyn yn cario’r cyffro hwn tra hefyd yn dathlu grym menywod a merched mewn pêl-droed. Amdani hi!”

Dywedodd Melissa Palmer, Uwch Reolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd CBDC:: “Mae’r ymgyrch hwn, ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru yn tynnu sylw at sut mae chwaraeon a diwylliant yn dod at ei gilydd i ddathlu hunaniaeth Gymreig. Mae gan bêl-droed y gallu i uno cymunedau, a thrwy weithio gyda sefydliadau fel Llenyddiaeth Cymru, rydym yn helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o feirdd, athletwyr a chefnogwyr fel ei gilydd.  

“Mae’r cerddi hyn yn ymgorffori balchder ac ysbryd ein cenedl, ac wedi llwyddo cyfleu beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o daith Cymru, yn enwedig ar yr adeg hanesyddol hwn i dîm y merched. Ni allem fod yn fwy balch o rannu’r dathliad hwn gyda phobl ifanc Cymru!”

Mae cefnogwyr Cymru a’r Wal Goch yn chwarae rhan allweddol yng ngemau Cymru a’r gobaith yw y bydd cefnogwyr yn heidio yn eu cannoedd i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth 29 Hydref.  

Archebwch eich tocyn

Cymru v Slofacia

Dydd Mawrth 29 Hydref, Stadiwm Dinas Caerdydd

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.