
Mae cyfnod Rob Page fel prif hyfforddwr Cymru wedi dod i ben ar ôl canlyniadau siomedig ym mis Mehefin ac ar ôl methu cyrraedd pencampwriaeth EWRO 2024.
Cymro balch a brwdfrydig, ganwyd a magwyd Page yn y Rhondda a chwareodd 41 o weithiau i Gymru fel amddiffynwr rhwng 1996 a 2005. Disgrifiodd gapteinio’r tîm yn erbyn Hwngari ar ei 36fed cap ym mis Chwefror 2005 fel “uchafbwynt fy ngyrfa ryngwladol” wrth edrych yn ôl ar y fuddugoliaeth o 2-0 yng Nghaerdydd. Penodwyd Page yn rheolwr tîm D21 Cymru yn 2017, a symudodd i fyny i’r tîm cyntaf fel cynorthwyydd i Ryan Giggs ym mis Awst 2019.
Penodwyd Page fel rheolwr Cymru ar sail dros dro ym mis Tachwedd 2020. Dros y misoedd nesaf, arweiniodd Page ei garfan i ddyrchafiad yn Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ac i bencampwriaeth UEFA EWRO 2020 lle aethant ymlaen o’r grŵp cyn colli yn y Rownd o 16 yn erbyn Denmarc. Gorffennodd yn yr ail safle yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022, ac yna fe wnaeth Page a’i garfan sicrhau lle yng Nghatar gyda buddugoliaeth enwog yn y gemau ail-gyfle yn erbyn Awstria ac Wcráin.
Yn dilyn y fuddugoliaeth 1-0 yng Nghaerdydd, penodwyd Page fel rheolwr ar sail parhaol a llofnododd gytundeb pedair blynedd a fyddai’n cynnwys EWRO 2024 a Chwpan y Byd 2026. “Nid oes anrhydedd mwy na hyfforddi eich tîm cenedlaethol ac ni allaf aros am yr her y bydd y pedair blynedd nesaf yn ei dod, gan ddechrau gyda’n Cwpan y Byd cyntaf ers 1958.” meddai ar y pryd. “Mae hwn yn amser cyffrous ar gyfer pêl-droed Cymru ac rwy’n gobeithio y gallwn wneud y wlad yn falch ym mis Tachwedd ac yna parhau ein llwyddiant drwy gyrraedd mwy o bencampwriaethau rhyngwladol yn y dyfodol.”
Fe wnaeth y ffocws ar gyfer cyrraedd Cwpan y Byd gweld Cymru’n colli ei lle yng Nghynghrair A yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA. Er gwaethaf gorffen yn y trydydd safle yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer EWRO 2024, ymgyrch a oedd yn cynnwys fuddugoliaeth 2-1 yn erbyn Croatia ond hefyd colled o 4-2 gartref yn erbyn Armenia, cawsant cyfle arall trwy’r gemau ail-gyfle i sicrhau eu lle yn yr Almaen. Dilynwyd buddugoliaeth campus dros y Ffindir yn y rownd gyn-derfynol ac yna golled dorcalonnus ar ôl ciciau o’r smotyn yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd. Er hynny, arosodd Page yn ddewr gyda chefnogaeth y FAW, ac yn gyflym newidiodd ei sylw at y gemau cystadleuol nesaf a’r pencampwriaeth rhyngwladol nesaf.
Page yw’r unig reolwr yn hanes sydd wedi arwain Cymru i rowndiau terfynol dwy pencampwriaeth rhyngwladol, tra bod ei ymgyrch ragbrofol lwyddiannus i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022 wedi gwneud ef y rheolwr cyntaf ers Jimmy Murphy, hefyd o’r Rhondda, yn 1958 i gyflawni’r gamp arbennig honno.
Roedd John Toshack yn rheolwr Cymru rhwng 2004 a 2010, ac yn ystod y cyfnod hwnnw aberthodd ei lwyddiant ei hun i ddod â chenedlaethau euraidd o sêr a fyddai’n serenu’n EWRO 2016. Cafodd Coleman ffrwyth y llafur ac fe barhaodd y broses drwy gyflwyno chwaraewyr fel Ethan Ampadu a David Brooks i’r tîm cyntaf. Yn dilyn y Cwpan y Byd diwethaf, fe wnaeth Page y dasg o gyflwyno’r gyda’r genhedlaeth nesaf mewn i’r garfan, ac mae perfformiadau chwaraewyr fel Jordan James yn ystod yr ymgyrch diwethaf yn dyst i’r sylfaen cadarn y mae Page wedi’u gosod ar gyfer y dyfodol.
Wrth i Gymru symud i gyfeiriad newydd nawr, mae chwaraewyr fel Charlie Savage, Lewis Koumas, Charlie Crew a Fin Stevens wedi cael eu blas cyntaf o’r gêm ryngwladol drwy Page a byddant yn ffurfio rhan bwysig o’r tîm cenedlaethol am y degawd neu fwy nesaf. Fel Toshack, ni fydd cyfraniad ddiweddaraf Page yn cael ei sylweddoli am nifer o flynyddoedd i ddod. Mae safon uchel wedi’i osod ar gyfer Cymru yn y blynyddoedd diweddar, ac er bod Page wedi chwarae rhan allweddol yn hynny, ei olynydd sydd bellach yn etifeddu’r lefel honno o ddisgwyliad.