Uno pobl, busnesau a phêl-droed ar draws cymunedau ARFOR
Mae cynllun newydd wedi cael ei lansio gan Gymdeithas Bel-droed Cymru i fynd ag ysbryd dwyieithog y Wal Goch i ganol rhai o gymunedau Cymru.
Dros y chwe mis nesaf, bydd 12 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn siroedd Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, a’r rheini’n dathlu bwrlwm y Wal Goch ar lawr gwlad.
Bydd y digwyddiadau teuluol yn amrywio o gerddoriaeth fyw i weithdai pêl-droed, gyda rhai o sêr y gamp yn ymddangos mewn ambell leoliad. Y nod yw defnyddio llwyddiant timau pêl-droed cenedlaethol y dynion a’r merched i uno pobl, busnesau a’r celfyddydau mewn cymunedau yn y pedair sir.
Prosiect yw hwn sy’n cael ei gynnal gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) gyda chyllid gan Gronfa Her ARFOR.
I drefnu’r digwyddiadau, bydd CBDC yn cydweithio â chlybiau pêl-droed lleol. Yn eu plith, bydd Clwb Pêl-droed Llangefni, Clwb Pêl-droed Dolgellau, Clwb Pêl-droed Bow Street a Chlwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin.
Bydd nifer o’r digwyddiadau’n cael eu cynnal dros benwythnosau gwyliau fel Gŵyl Cefni, Gŵyl Fach Aberporth, Sesiwn Fawr Dolgellau a Gŵyl Canol Dre Caerfyrddin. Bydd y gweddill yn cyd-daro â gemau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd, wrth i Gymru herio Twrci, Montenegro a Gwlad yr Iâ dros fisoedd yr hydref.
Bydd pwyslais ar gydweithio â busnesau lleol, a fydd yn cael eu gwahodd i’r digwyddiadau i werthu ac arddangos cynnyrch. Bydd CBDC hefyd yn creu cynnwys Cymraeg digidol i’w rannu ar wasanaeth ffrydio RedWall+.
Cynhelir digwyddiad cyntaf y cynllun yng Nghlwb Pêl-droed Llangefni ar 6 Mehefin. Dyma noson gêm gyfeillgar tîm dynion Cymru yn erbyn Gibraltar, a bydd cyfle i deuluoedd fwynhau gweithdai a bwyd cyn gwylio’r gêm ar y sgrin fawr.
Dywedodd Ieuan Davies, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Llangefni: “Mae’n grêt gallu cydweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Gŵyl Cefni i gynnal digwyddiad teuluol yn y clwb. Mae cael cyfle i ddathlu Cymreictod, cynnal gweithdai pêl-droed a gweithio gyda busnes lleol i ddenu cynulleidfaoedd newydd yn wych a’r gobaith ydi y
daw nhw nôl yma i wylio gemau dynion a merched y clwb ynghyd â gemau cenedlaethol Cymru.”
Meddai Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus CBDC: “Rydyn ni fel cymdeithas yn edrych ymlaen at gydweithio â Chronfa ARFOR dros y misoedd nesaf, gan ddod â phêl-droed, busnesau lleol, y celfyddydau a’r Gymraeg i gyd at ei gilydd. Drwy hynny, byddwn ni’n creu naws gemau rhyngwladol mewn cymunedau lleol.”
Mae ARFOR yn fenter ar y cyd rhwng awdurdodau lleol Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, yn dilyn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae’n ceisio defnyddio cyllid o £2 filiwn i dreialu atebion newydd ac arloesol i heriau yn yr ardaloedd hyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd ARFOR: “Mae Bwrdd ARFOR yn edrych ymlaen at gydweithio gyda CBDC ar y cynllun yma. Mae o am alluogi Rhaglen ARFOR i greu bwrlwm o fewn ein cymunedau ag i greu rhwydwaith newydd rhwng busnesau a chymunedau i fod yn rhan o weithgareddau pêl droed rhyngwladol, y celfyddydau a’r Gymraeg. Mae’r cynllun yn un cyffrous i greu a datblygu gofodau Cymraeg naturiol o fewn y rhanbarth. Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r digwyddiadau yma dros y misoedd nesaf”