
Bydd Cymru yn wynebu Romania yn Bucharest ar ddydd Sadwrn 6 Mehefin (amser KO i’w gadarnhau), lle bydd y ddau dîm yn cwrdd am y tro cyntaf ers 1993.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Steaua yn Bucharest (seddi 31,000), yn dilyn gêm gyfeillgar bedwar diwrnod ynghynt i dîm Craig Bellamy yn erbyn Ghana yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Mawrth 2 Mehefin.
Y tro diwethaf wnaeth y timau gyfarfod oedd mewn gêm ragbrofol allweddol yng Nghaerdydd i gyraedd pencampwriaeth Cwpan y Byd FIFA 1994, pan wnaeth goliau gan Gheorghe Hagi a Florin Răducioiu tori calonnau Cymru a sicrhau lle i Romania yn y pencampwriaeth.
Mae’r newyddion am y cyhoeddiad yn dilyn marwolaeth drist Prif Hyfforddwr Romania, Mircea Lucescu, yr wythnos diwethaf. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn estyn ei chydymdeimlad i deulu Lucescu, ei ffrindiau ac i bawb yng Nghymdeithas Bêl-droed Romania.
Ar ôl y gemau ym mis Mehefin, bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yng Nghynghrair A yn pemcampwriaeth Cynghrair Cenhedloedd UEFA yn yr hydref, lle byddant yn wynebu Denmarc, Norwy a Phortiwgal.
Bydd gwybodaeth am docynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Romania yn cael ei chyhoeddi maes o law.