
Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyda bresenoldeb gryf yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gyda stondin a nifer o ymwelwyr arbennig yn ymweld drwy gydol yr wythnos.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol (Eisteddfod y Garreg Las) yn cael ei chynnal ger Llantwd yng ngogledd Sir Benfro rhwng 1 a 8 Awst. Yr Eisteddfod Genedlaethol yw gŵyl ddiwylliannol flynyddol fwyaf Ewrop, sydd yn dathlu’r iaith Gymraeg, cerddoriaeth, barddoniaeth a’r celfyddydau.
Bydd stondin CBDC wedi’i lleoli ar safleoedd 912-913 a bydd yn hyrwyddo popeth sydd i’w ymwneud â phêl-droed Cymru, gyda rhoddion am ddim ar gael i blant ac oedolion.
Bydd y stondin hefyd yn gwerthu crys-t unigryw sydd ar gael i’w brynu yn unig ar y Maes, ynghyd â bagiau, hetiau bwced ac eitemau eraill, gan gynnwys cylchgrawn rhagolwg tymor 2026/27 y Novira Cymru Premier.
Bydd nifer o westeion arbennig sydd yn gysylltiedig â phêl-droed Cymru yn ymweld â’r Maes a stondin CBDC yn ystod yr wythnos. Bydd tlws y Novira Cymru Premier hefyd yn y stondin drwy gydol yr wythnos er mwyn i gefnogwyr gael cyfle i dynnu hunluniau.
Ar ddydd Llun 3 Awst (amser i’w gadarnhau), bydd chwaraewyr o dîm CPDC Hwlffordd a yn bresennol i gwrdd â chefnogwyr y Novira Cymru Premier.
Bydd Prif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru, Rhian Wilkinson, yn ymweld â’r Maes ar ddydd Mercher 5 Awst ac yn cwrdd â chefnogwyr yn stondin CBDC rhwng 10am a 2pm.
Ae ddydd Gwener 7 Awst, bydd Capten Cymru Angharad James a’r cyn-chwaraewr rhyngwladol ac arwr EURO 2016, Joe Allen, yn cael eu hanrhydeddu gan Orsedd Cymru am eu cyflawniadau yn y byd pêl-droed ac am hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan gynnwys manylion tocynnau a gweithgareddau pellach ar y Maes, ar gael yma.

