Hyfforddwyr Timau Ieuenctid Cymru wedi’i gadarnhau ar gyfer 2026/27

Mae strwythur hyfforddi timau ieuenctid cenedlaethol Cymru wedi’i gadarnhau ar gyfer tymor 2026/27.

Bydd Jon Grey yn arwain tîm Dynion D19 Cymru am y tymor, gan barhau â’u hymgyrch ragbrofol UEFA EURO D19 2026/27 a ddechreuodd ym mis Mawrth. Yn y rownd gyntaf fe wnaeth Cymru ennill yn erbyn y Swistir a cael gêm gyfartal yn erbyn Ffrainc. Bydd tîm Grey yn teithio i Marbella ar gyfer gemau cyfeillgar ym mis Medi (gwrthwynebwyr i’w cadarnhau) cyn chwarae yn yr ail rownd ragbrofol UEFA EURO, a gynhelir yng Nghymru. Bydd Cymru yn wynebu’r Ffindir, Gwlad yr Iâ a Sbaen, pencampwyr tymor diwethaf.

Bydd Nia Davies yn parhau yn ei swydd fel rheolwr tîm Menywod D19 Cymru. Bydd tîm Davies yn edrych i gadw eu lle yng Nghynghrair A yn rownd ragbrofol UEFA EURO Menywod D19 yn yr hydref (dyddiadau a lleoliad i’w cadarnhau) gyda gemau yn erbyn Sbaen, yr Eidal ac Israel. Cyn y gemau rhagbrofol, bydd tîm Davies yn wynebu Gwlad Groeg mewn dwy gêm gartref ym mis Hydref yn ne Cymru. Fe wnaeth Cymru gadw eu lle yng Nghynrair A trwy gydol y tymor diwethaf, mewn ymgyrch a oedd yn cynnwys buddugoliaethau yn erbyn Lloegr a Thwrci.

Ar ôl arwain Cymru ym Mhencampwriaeth UEFA EURO D19 yng ngogledd Cymru dros yr haf, bydd Chris Gunter yn rheoli tîm Dynion D18 Cymru ar gyfer tymor 2026/27. Bydd Gunter yn cymryd y swydd ochr yn ochr â’i swydd lawn amser fel Is-Hyfforddwr Oxford United. Bydd Cymru yn ymgynnull ym mis Hydref ar gyfer dwy gêm oddi cartref yn erbyn y Ffindir.

Bydd Adrian Harvie yn symud ymlaen gyda chwaraewyr y grŵp 2010 i fod yn Hyfforddwr tîm Dynion D17 Cymru am y tymor. Bydd ei dîm yn gwynebu Gweriniaeth Iwerddon, Estonia a Denmarc yn Rownd Ragbrofol UEFA EURO D17 2026/27 ym mis Tachwedd. Cyn y twrnamaint, bydd camp ymarfer ym mis Awst cyn gemau cyfeillgar yn Sbaen ym mis Medi.

Natalie Lawrence bydd yn arwain y tîm menywod D17 am y tymor 2026/27, wrth iddyn nhw edrych am ddyrchafiant o Gynghrair B yn rownd gyntaf UEFA EURO Menywod D17 yn erbyn Gogledd Macedonia, Luxembourg a Georgia ym mis Hydref. Cyn y gemau rhagbrofol UEFA, bydd tîm Lawrence yn teithio i Bortiwgal ddechrau mis Medi ar gyfer gemau cyfeillgar.

Drew Sherman bydd yn arwain tîm Bechgyn D16 Cymru y tymor hwn gan ddechrau gyda dwy gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Rhuthun ar ddydd Mawrth 18 Awst (KO 3pm) a dydd Iau 20 Awst (KO 11am) cyn gemau datblygu UEFA yn ystod y tymor.

Bydd y tîm Bechgyn D15 hefyd yn cymryd rhan mewn gemau datblygu UEFA yn ystod y tymor gan ddechrau yn Zagreb, Croatia.  Jonathan Jones fydd yn hyfforddi’r tîm yn ystod y tymor.

Warren Holmes bydd yn arwain timau Merched D15 a D16 Cymru yn ystod 2025/26 a fydd yn cymryd rhan mewn gemau datblygu UEFA ledled Ewrop.

Wrth edrych ymlaen at y tymor sydd i ddod, dywedodd Prif Swyddog Pêl-droed CBDC, Dr David Adams:

“Ni wedi adeiladu tîm o hyfforddwyr talentog a phrofiadol sydd yn argenigo mewn datblygu chwaraewyr ifanc. Bydd hyn yn sicrhau ein fod yn darparu amgylchedd gwych ledled ein timau cenedlaethol.”

“Er y byddwn bob amser yn canolbwyntio ar wneud ein timau ieuenctid yn gystadleuol, ein prif nod yw i weld cyfartaledd o ddau chwaraewr bob blwyddyn yn symud ymlaen drwy ein llwybr datblygu i’n dimau cenedlaethol hŷn y dynion a’r menywod. Ein prif nod yw i ddatblygu pob unigolyn i gyrraedd ei botensial.”