
Mae pedair ar bymtheg o chwaraewyr wedi cael eu galw i fyny ar gyfer camp gyntaf erioed Cymru ar lefel Menywod D23, a fydd yn cael ei gynnal yn ystod ffenestr ryngwladol mis Hydref.
Bydd Prif Hyfforddwr Cymru Menywod D19, Nia Davies, yn arwain y camp gyda chyn-chwaraewr Cymru, Kayleigh Barton, Prif Hyfforddwr CPD Dinas Abertawe, Yzzy Taylor, a Rheolwr Academi Genedlaethol CBDC, Brad Flay, yna fel Hyfforddwyr Cynorthwyol.
Bydd nifer o chwaraewyr sy’n rhan o’r Tîm Cenedlaethol Menywod yn ystod yr wythnos yn cymryd rhan yn y dau camp. Mae’r garfan hefyd yn cynnwys nifer o chwaraewyr a oedd yn rhan o’r garfan Menywod D19 y tymor diwethaf ond sydd bellach wedi symud ymlaen o’r grŵp oedran hwnnw. Ymhlith y rhai sydd wedi’u cynnwys yw Faye Knox, sy’n chwarae i Wrecsam yn y Genero Adrian Premier.
Bydd y camp yn cael ei gynnal ym Mhencadlys CBDC yn Hensol, yr un pryd a’r camp Tîm Cenedlaethol Menywod er mwyn galluogi cydweithio agos rhwng chwaraewyr a staff y ddau garfan.
Mae gwaith wedi bod yn mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni ers sawl blwyddyn i gyflwyno tîm Menywod D23 i lwybr datblygu chwaraewyr Cymru, gyda nifer o genhedloedd Ewropeaidd eisoes wedi sefydlu timau yn y grŵp oedran hwn er gwaethaf absenoldeb cystadleuaeth swyddogol gan UEFA.
Bydd cyflwyno’r grŵp oedran newydd hefyd yn cefnogi rhaglen talent Cymru, sy’n ceisio canfod talent y dyfodol yng Nghymru a thu hwnt, boed hynny drwy enedigaeth neu dreftadaeth.
Bydd y camp yn dod i ben gyda gêm gyfeillgar y tu ôl i ddrysau caeedig yn erbyn Watford, tîm WSL 2, ym Mhencadlys CBDC. Trefnwyd y gêm drwy gyn-chwaraewr Cymru a Phennaeth Pêl-droed Merched a Menywod Watford, Helen Ward.
Cymru Menywod D23: Cadi DORAN (Kidderminster Harriers- On loan from Wolverhampton Wanderers), Hope MCSHEFFREY (Bristol City), Lucy DAY (West Bromwich Albion), Shurima VINE (Cheltenham Town), Casi EVANS (Cheltenham Town), Charlotte SALISBURY-WILLIAMS (Cheltenham Town), Amelie CURTIS (Cheltenham Town), Nia LEWIS (Bristol City- Dual signing at Exeter), Elena COLE (Bournemouth), Keira O’KEEFE (Cheltenham Town), Ffion BOWEN (Leicester City), Lleucu MATHIAS (Durham), Emily GIDDINGS (Bristol City), Chloe GIDDINGS (Bristol City), Jessie ARCHIBALD (Southampton), Faye KNOX (Wrexham), Tianna TEISAR (Watford), Heidi HILLS (Tottenham Hotspur), Cadi RODGERS (Plymouth Argyle).