Angharad James a Joe Allen i’w anrhydeddu i’r Orsedd

Bydd capten Cymru Angharad James a’r cyn-chwaraewr Joe Allen yn cael ei anrhydeddu gan yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ym mis Awst.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.  Braf yw cael cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod yn Llantwd, Sir Benfro, fore Llun 3 Awst a bore Gwener 7 Awst.

Fe wnaeth Angharad James arwain Cymru fel capten ym Mhencampwriaeth UEFA EWRO 2025 yr haf diwethaf, ymddangosiad gyntaf Cymru mewn pencampwriaeth menywod. Yn 2022, Angharad James oedd y chwaraewr ifancach ar draws y timau dynion a menywod i gyrraedd 100 cap dros Gymru.

Fe wnaeth Joe Allen cynrychioli Cymru dros yrfa 16 mlynedd, cyfnod a wnaeth ei weld yn cynrychioli ei wlad mewn tair pencampwriaeth ryngwladol; dau rownd derfynol UEFA EWRO (2016 a 2020) a Chwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar. Chwaraeodd Allen rhan hanfodol yn UEFA EWRO 2016 pan wnaeth Cymru cyrraedd y rownd gyn-derfynol yn Ffrainc, a chafodd ei wobrwyo gan le yn Nhîm y Bencampwriaeth UEFA.

Yn ogystal â’u llwyddiannau ar y cae, mae’r ddau unigolyn wedi bod yn gefnogwyr cadarnhaol i’r Gymraeg, gan gymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau cyfryngol yn y Gymraeg.

Wrth siarad am yr anrhydedd, dywedodd Angharad James “Mae cael i gydnabod gan yr Orsedd yn un o’r anrhydeddau a’r breintiau mwyaf y gall Cymro eu cael, ac mae’n golygu’r byd i mi a’r teulu. Rwy’n falch bob tro rwy’n cynrychioli fy ngwlad, ond rwyf yr un mor falch o sut y gallaf ddefnyddio’r Gymraeg ar draws y byd, ar y cae ac mewn cyfweliadau.”

“Daw fy nghariad at Gymru a’r iaith o’m magwraeth yn Sir Benfro a fy amser yn Ysgol y Preseli. Mae cael fy anrhydeddu gan yr Orsedd yn fy sir enedigol yn ei gwneud yn arbennig iawn. Rwy’n gobeithio y gallaf ysbrydoli plant a phobl ifanc yn yr ardal ac ar draws y wlad i ddefnyddio a dathlu’r iaith yn yr un ffordd.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las o 1-8 Awst eleni. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.