Angharad James wedi’i enwi fel capten Cymru

Mae Angharad James wedi’i phenodi’n gapten newydd Cymru.

Mae James, a anwyd yn Arberth, a oedd yn un o’r pedwar chwaraewr i fod yn gapten ar hyd ymgyrch ragbrofol UEFA EURO 2025 ar ôl i Sophie Ingle benderfynu camu i lawr, bellach wedi derbyn y rôl gan y prif hyfforddwr Rhian Wilkinson.

Mae’r canolwr wedi bod yn gapten ar dri achlysur cyn hynny ar ôl bod yn gapten ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn UDA ym mis Gorffennaf 2023 cyn arwain Cymru yn y gemau rhagbrofol UEFA EURO 2025 yn erbyn Wcráin a Kosovo ym Mharc y Scarlets.

Mae James yn dod â chyfoeth o brofiad i’r rôl gan ei bod wedi ennill 122 cap dros Gymru ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn yr Alban ym mis Hydref 2011.

Mae’r amddiffynnwr Hayley Ladd a’r canolwr Ceri Holland wedi cael eu henwi’n is-gapteiniaid Cymru.

Wrth siarad am ei hapwyntiad, dywedodd James: “Cynrychioli eich gwlad yw’r anrhydedd mwyaf gall chwaraewr ei gael, ac mae cael fy mhenodi’n gapten yn foment hynod falch i mi a fy nheulu.

“Mae Sophie Ingle yn arweinydd anhygoel, ac rydw i wedi dysgu cymaint o’i hymroddiad a’i harweinyddiaeth fel capten dros y naw mlynedd diwethaf. Bydd ei hetifeddiaeth yn cael ei theimlo am flynyddoedd i ddod, ac mae’n anrhydedd mawr dilyn yn ôl ei thraed a’r capteiniaid a ddaeth o’i blaen hi.

“Rydw i wedi siarad am y balchder o fod yn gapten pan rydw i wedi cael y cyfleoedd o’r blaen, ond rydyn ni’n ffodus i gael cymaint o arweinwyr yn y grŵp hwn.

“Mae cael arweinwyr ar lefelau gwahanol yn y garfan yn hanfodol, a gyda’n gilydd, byddwn yn gwthio tuag at ein nod cyfunol o gyrraedd twrnamaint mawr am y tro gyntaf.”

Ychwanegodd y prif hyfforddwr Rhian Wilkinson: “Mae Angharad wedi bod yn berfformiwr cyson i’r tîm hwn am flynyddoedd, ac mae hynny’n cael ei grynhoi gan nifer y gemau y mae wedi’u chwarae.

“Mae ei hangerdd a’i hymrwymiad i’w gwlad yn amlwg ac er nad hi o reidrwydd yw’r arweinydd mwyaf lleisiol, mae hi bob amser yn mynnu ac yn cynnig cyngor i’w chyd-chwaraewyr pan fydd hi’n camu ar y cae.

“Rwy’n caru’r ffordd mae hi’n cofleidio’r chwaraewyr iau yn y garfan gyda’i harweinyddiaeth hefyd, sy’n bwysig ar gyfer dyfodol y tîm a’r cyfeiriad rydyn ni’n mynd.

“Mae nifer o chwaraewyr wedi cael cyfleoedd i arwain y tîm ers i mi gymryd yr awenau ym mis Chwefror ac rydym yn ffodus bod yna lawer o arweinwyr yn y garfan.

“Mae Angharad yn deall y cyfrifoldeb sy’n dod gyda bod yn gapten, ar y cae ac oddi arno, ac rwy’n gwybod bod hon yn foment o falchder iddi hi a’i theulu.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd hi’n arwain y tîm mor drawiadol â Sophie Ingle a chyn-gapteiniaid ein cenedl.

“Mae Hayley a Ceri hefyd wedi bod yn berfformwyr cyson yn y tîm hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’r ddwy wedi bod yn gapteiniaid o’r blaen yn yr ymgyrch ragbrofol. Rwy’n gwybod y byddan nhw hefyd yn dod â rhinweddau arweinyddiaeth gryf y neu rolau fel ein his-gapteiniaid.”

Y cyfle nesaf i weld James yn arwain Cymru fydd yn y rownd gynderfynol gemau ail gyfle UEFA EURO 2025 yn erbyn Slofacia. Gellir prynu tocynnau ar gyfer yr ail gymal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Mawrth 29 Hydref yma.

Secure your ticket

Cymru v Slovakia

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.