Mae Matty Jones wedi cyhoeddi ei garfan Cymru D21 ar gyfer gêm ragbrofol UEFA EWRO D21 2025 yn erbyn Tsiecia a’r gêm gyfeillgar yn erbyn Slofacia.
Mae Jones wedi enwi carfan o 22 chwaraewr ar gyfer gêm olaf Cymru yn yr ymgyrch rhagbrofol yn Rodney Parade ddydd Gwener 11 Hydref a’r gêm gyfeillgar yn DAC Arena yn Dunajská Streda bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Mae Owen Hampson a Lewys Benjamin wedi derbyn eu galwadau cyntaf i’r garfan. Mae Benjamin yn cymryd lle Ed Beach, sydd wedi chwarae mewn chwech allan o’r saith gêm ragbrofol ond sy’n colli allan tro hyn ar ôl dioddef anaf.
Fe wnaeth Joe Low helpu Cymru i ennill 2-1 dros Wlad yr Iâ ond derbyniodd ei drydydd cerdyn melyn o’r ymgyrch ac felly yn colli allan ar y garfan oherwydd gwaharddiad.
Mae’r amddiffynnwr Ed Turns wedi’i gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf ers Medi 2023 pan oedd yn gapten wrth i Gymru ennill 3-2 yn erbyn Lithwania, tra bod yr ymosodwr Josh Farrell yn dychwelyd am y tro cyntaf ers mis Mehefin 2023.
Gall tîm Matty Jones, sydd ar y cyd ar frig eu grŵp rhagbrofol, sicrhau cymhwyster awtomatig ar gyfer rowndiau terfynol UEFA EWRO D21 os ydyn nhw’n gwella canlyniad Denmarc yn eu gêm ragbrofol olaf.
Bydd gêm gyfartal yn erbyn Tsiecia yng Nghasnewydd yn ddigon i sicrhau lle i Gymru yn y gemau ail gyfle am y tro cyntaf ers 2008.
Prynwch docynnau ar gyfer y gêm ragbrofol yn erbyn Tsiecia yma.
Cymru U21: Evan WATTS (Swansea City), Lewys BENJAMIN (Wolves), Fin STEVENS (St. Pauli), Alex WILLIAMS (Stratford Town – on loan from West Brom), Matt BAKER (Newport County), Luca HOOLE (Shrewsbury Town), Ed TURNS (Brighton & Hove Albion), Zac ASHWORTH (Blackpool), Tom DAVIES (Cardiff City), Eli KING (Stevenage – on loan from Cardiff City), Oli HAMMOND (Oldham Athletic), Joel COTTERILL (Swindon Town – on loan from Swansea City), Charlie SAVAGE (Reading), Owen HAMPSON (Sheffield United), Charlie CREW (Leeds United), Joel COLWILL (Cheltenham Town – on loan from Cardiff City), Rubin COLWILL (Cardiff City), Cian ASHFORD (Cardiff City), Cameron CONGREVE (Bromley – on loan from Swansea City), Josh THOMAS (Bromley – on loan from Swansea City), Chris POPOV (Barrow – on loan from Leicester City), Josh FARRELL (CF Villanovense).