Carfan Cymru D21 wedi’i chyhoeddi ym mis Hydref

Mae Matty Jones wedi cyhoeddi carfan o 23 o chwaraewyr ar gyfer gemau rhagbrofol UEFA U21 EWRO 2027 yn erbyn Gwlad Belg ac Awstria yn Grŵp I.

Yn dilyn eu colled yn erbyn Denmarc yn Rodney Parade yn gynharach ym mis Medi, bydd tîm Jones yn ceisio adfer wrth iddyn nhw barhau â’u hymgyrch ragbrofol mewn grŵp cystadleuol o bum tîm sydd hefyd yn cynnwys Belarus.

Bydd Cymru yn croesawu Gwlad Belg i Rodney Parade ddydd Gwener, 10 Hydref (6pm), cyn teithio i Linz i wynebu Awstria yn Donauparkstadion ddydd Mawrth, 14 Hydref (5pm BST).

Mae yna ddychweliadau croesawgar i Lewys Benjamin ac Archie Harris, sy’n ailymuno â’r garfan am y tro cyntaf ers mis Mai ar ôl anafiadau, tra bod Dakarai Mafico o Ddinas Caerdydd wedi cael ei alwad i chwarae i dîm rhyngwladol dan 21 am y tro cyntaf.

Mae Charlie Crew a Kai Andrews hefyd wedi’u cynnwys yn y garfan, ar ôl bod yn rhan o garfan Craig Bellamy yn ystod y ffenestr ryngwladol ddiwethaf.

Mae gan Gymru llwybr cymhwyso anodd ond byddant yn anelu at adennill momentwm gyda pherfformiad cryf yng ngemau mis Hydref eleni.

Cymru U21: Evan WATTS (Swansea City – on loan at Galway United), Luke ARMSTRONG (Cardiff City – on loan at Penybont), Archie HARRIS (AFC Bournemouth – on loan at Eastleigh), Luey GILES (Cardiff City), Dan COX (Derby County – on loan at Walsall), Ben HAMMOND (Nottingham Forest), Ed JAMES (Exeter City), Sam PARKER (Swansea City), Joel COTTERILL (Swansea City – on loan at Bristol Rovers), Jonathan BLAND (Barnsley), Callum AGIUS (Crewe Alexandra), Cian ASHFORD (Cardiff City), Tanatswa NYAKUHWA (Cardiff City), Cameron CONGREVE (Swansea City – on loan at Dundee), Ben LLOYD (Swansea City – on loan at Newport County), Luke HARRIS (Fulham – on loan at Oxford United), Chris POPOV (Leicester City), Gabriele BIANCHERI (Manchester United), Charlie CREW (Leeds United – on loan at Doncaster Rovers), Dakarai MAFICO (Cardiff City), Kai ANDREWS (Coventry City), Lewys BENJAMIN (Wolverhampton Wanderers – on loan at Chester FC), Thierry KATSUKUNYA (Aston Villa – on loan at Real Unión) 

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.