Carfan Cymru Wedi Cyhoeddi ar Gyfer Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Merched

Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi carfan o 26-chwaraewr ar gyfer y gemau allweddol yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 yn erbyn Gwlad Groeg a Slofenia.

Bydd pedwar pwynt o’r ddwy gêm yn sicrhau lle Cymru yng nghemau ail-gyfle Cwpan y Byd FIFA Merched am y tro gyntaf erioed, gyda Chymru yn teithio i Volos i wynebu Gwlad Groeg ar ddydd Gwener 2 o Fedi (KO 18:00), cyn croesawi Slofenia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Mawrth 6 o Fedi (KO 19:45). Mae gan Grainger carfan bron holliach ar gael, gyda Jess Fishlock a Charlie Estcourt nol yn y garfan. anaf. Yn anffodus, ni fydd Esther Morgan neu Hannah Cain ar gael oherwydd anafiadau hir dymor.

Bydd o leiaf 8,500 o dorf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, record ar gyfer gêm merched Cymru. Bydd Grainger a’r tîm yn gobeithio bydd dros 10,000 o’r Wâl Goch yn y gêm ac yn chwarae rhan allweddol wrth i Gymru ceisio creu hanes.

Mae tocynnau gyfer y gêm yn erbyn Slofenia ar gael ar faw.cymru/tickets, efo prisiau yn dechrau o £2 (archebion grŵp) a £4 (archebion unigol).

https://youtu.be/YZUZ8LgkVCA

Cymru: Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Olivia CLARK (Bristol City), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Rhiannon ROBERTS (Liverpool), Josie GREEN (Leicester City), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Reading), Rachel ROWE (Reading), Lily WOODHAM (Reading), Sophie INGLE (Chelsea), Anna FILBEY (Crystal Palace), Angharad JAMES (Tottenham Hotspur), Georgia WALTERS (Sheffield United), Charlie ESTCOURT (Unattached), Jess FISHLOCK (OL Reign), Carrie JONES (Leicester City – on loan from Manchester United), Ffion MORGAN (Bristol City), Megan WYNNE (Southampton), Elise HUGHES (Crystal Palace), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion), Helen WARD (Watford), Natasha HARDING (Aston Villa), Ceri HOLLAND (Liverpool), Maria FRANCIS-JONES (Sheffield United – dual agreement with Manchester City), Chloe Williams (Blackburn Rovers – dual agreement with Manchester United), Morgan ROGERS (Watford).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.